Dywed Craig ab Iago, y Cynghorydd dros ward Llanllyfni, nad yw hi’n “gwneud synnwyr” fod cymaint o bobol yn ddigartref yng Ngwynedd.
Roedd adroddiad diweddar yn taflu goleuni ar y cynnydd sylweddol sydd wedi bod ar draws y sir yn dilyn y pandemig Covid-19, gyda’r galw ar swyddogion digartrefedd y Cyngor yn cyrraedd eu lefelau uchaf erioed.
Fe gyfeiriodd un cynghorydd at y sefyllfa “anfoesol” o gael 7,000 o ail gartrefi yn wag am ran fwya’r flwyddyn yn yr awdurdod lleol, gyda hynny’n cael ei nodi fel ffactor sy’n gwaethygu digartrefedd.
Mae Cyngor Gwynedd yn y broses o adeiladu unedau dros dro i ymgartrefu rhai o drigolion digartref y sir, wrth iddyn nhw geisio canfod datrysiad mwy parhaol.
‘Dim digon o dai’
“Mae’r niferoedd o bobol ddigartref yr uchaf rydyn ni erioed wedi ei weld ar hyn o bryd, gyda chynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai Carys Fôn Williams, oedd wedi ei phenodi i swydd pennaeth tai ac eiddo yn ddiweddar.
“Os yw pethau’n parhau i ddilyn patrwm tebyg wedyn byddwn ni’n gweld dros 1,000 o atgyfeiriadau am y tro cyntaf erioed.
“Dydy hyn ddim yn unigryw i Wynedd wrth gwrs, mae’n batrwm rydyn ni’n ei weld ar draws Cymru.
“Yn syml, does gennym ni ddim digon o dai i letya pawb.”
Adroddiad
Wedi dechrau’r pandemig, roedd rheolau newydd gan Lywodraeth Cymru yn gorfodi cynghorau sir i letya pawb oedd yn ddigartref i sicrhau nad oedd neb yn cysgu ar y stryd.
Ond roedd yr adroddiad yn nodi bod y cynnydd wedi bod yn “ddychrynllyd” ac wedi arwain at “straen sylweddol ar staff” er mwyn cyrraedd y galw.
Roedd 593 o bobol wedi cyflwyno eu hunain i’r Cyngor fel rhai digartref yn 2019/20, tra bod hynny wedi cynyddu i 812 yn 2020/21.
Mae’n debyg fod cymaint â 452 o bobol wedi gwneud hynny yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn ariannol bresennol.
Roedd cynllun gweithredu gwerth £77m eisoes wedi ei fabwysiadu fis Rhagfyr y llynedd, er mwyn adeiladu a thrawsnewid cannoedd o eiddo erbyn 2027, ac mae llawer o’r gwaith hynny’n digwydd ar y cyd gyda chymdeithas dai Adra.
‘Ddim yn foesol’
“Rydyn ni wedi taclo’r rheiny sy’n cysgu ar y stryd, ond mae digartrefedd cudd wedi gwaethygu yn ystod Covid, felly cysgu ar soffas ac yn y blaen,” meddai Craig ab Iago, sy’n cynrychioli ward Llanllyfni, yw Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Tai.
“Nid dim ond y pandemig sy’n achosi hyn, ond mae pobol yn prynu ein tai ni ac yn eu defnyddio fel AirBnBs ac ati, sy’n golygu bod llai o dai i bobol leol.
“Mae yna un enghraifft yn lleol o deulu sydd â thrilliaid, ac un plentyn ifanc arall, sy’n gorfod cysgu yn ystafell wely eu mam.
“Dydy hyn ddim yn foesol mewn gwlad byd cyntaf. Dydy o ddim yn gwneud synnwyr bod y math yma o beth yn digwydd.”