Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio sefydliad newydd ar y cyd sy’n edrych ar y cysyniad o heddwch.
Cafodd y bartneriaeth gyda Sefydliad Guerrand-Hermes dros Heddwch ei chyhoeddi yn ystod digwyddiad Diwrnod y Sylfaenwyr ar gampws Llambed dros y penwythnos.
Bydd Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn canolbwyntio’n benodol ar hybu cyfiawnder cymdeithasol, gwella ar y cyd, a datrys gwrthdaro.
Yr academydd Dr Scherto Gill fydd cyfarwyddwr cyntaf y sefydliad, ac fe adroddodd hi araith yn herio’r cysyniad o heddwch fel absenoldeb trais, gan gyflwyno ac ystyried pwysigrwydd lles ac anwyldeb.
Carreg filltir
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bod lansio’r sefydliad yn addas wrth gyd-fynd â phen-blwydd y Brifysgol yn 200 mlwydd oed.
“Rwy’n falch iawn ein bod yn lansio Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yma yn Llambed ar achlysur Diwrnod y Sylfaenwyr,” meddai.
“Ddau gan mlynedd yn ôl, sefydlodd yr Esgob Thomas Burgess goleg yn Llambed a blannodd yn ei myfyrwyr ddealltwriaeth a pharch dwfn tuag at y Dyniaethau.
“Mae Llambed wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am ddeialog amlddiwylliannol ac aml-ffydd lle mae cytgord, ysbrydolrwydd, parch at eraill a’r amgylchedd yn cael ei werthfawrogi a’i hyrwyddo.”
Cydweithio ag UNESCO
Bydd y sefydliad hefyd yn cydweithredu gydag UNESCO wrth iddyn nhw lunio eu hamcanion craidd a gweithgareddau.
Teithiodd Tabue Nguma, sy’n aelod o’r corff, o Ffrainc i lansiad y sefydliad.
“Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi gallu gwneud y siwrne o Paris i fod yma heno yn y digwyddiad arbennig hwn,” meddai.
“Gyda’n gilydd, dw i’n siŵr y gallwn wneud y gwaith pwysig i daclo’r anghyfiawnder cymdeithasol, hiliaeth systemig ac anoddefgarwch ledled y byd.”