Mae Bro360 wedi cyhoeddi llyfryn gweithgareddau “ysbrydoledig a hollol unigryw” er mwyn helpu cymunedau.
Bydd Bro Ni yn cael ei lansio yn y Galeri yng Nghaernarfon heno (19 Tachwedd), a bydd modd cael gafael ar y llyfryn o nifer o siopau llyfrau annibynnol.
Mae’r llyfryn yn cynnig syniadau o ran sut i “sbarduno ffyrdd o ailgynnau bwrlwm bro”, gyda gweithgareddau creadigol a digwyddiadau, yn ogystal â hybu busnesau a chynnyrch lleol.
Prosiect gan gwmni Golwg yw Bro360 er mwyn cydweithio â chymunedau i greu a chynnal gwefannau newyddion lleol.
Bro Ni yn ‘ysbrydoledig a deniadol’
“Dyma lyfryn bach defnyddiol i unrhyw gymuned,” meddai Betsan Siencyn, un o’r rhai sy’n cyfrannu at wefan fro BroAber360.
“Mae’n cynnwys syniadau bachog sy’n addas ar gyfer pawb, o’r garddwyr i’r foodies.
“Bydd yr adnodd hwn yn siŵr o ddod â phob aelod o’r gymuned at ei gilydd i fwynhau amrywiol weithgareddau.”
Yn ogystal â chymell syniadau creadigol ar gyfer cynnal cymuned, mae’r llyfryn yn cynnig awgrymiadau am ffyrdd o ddefnyddio’r gwefannau Bro i rannu straeon lleol mewn ffordd ddifyr.
Mae perchennog busnes bach yn Llanbedr Pont Steffan wrth ei bodd gyda’r cysyniad.
“Fi’n falch bod fersiwn print ar gael,” meddai Sarah Ward o Stiwdio Brint.
“Fi ffaelu aros eistedd lawr gydag e (a phaned o goffi) i feddwl am Lanbed, cymuned Mam a Dad, ein busnes, a lot o bethe eraill.
“Mae’n ysbrydoledig, ac yn ddeniadol tu hwnt!”
Bydd copïau o Bro Ni ar gael yn y siopau canlynol:
- Na-nog
- Palas Print
- Siop Ogwen
- Siop y Pethe
- Inc
- Rhiannon Tregaron
- FFAB Llandysul
- Aeron Booksellers
- Sianti
- Smotyn Du Llanbed
- Awen Teifi
Gweithdai creu cynnwys
Bydd y lansiad yn cynnwys sgwrs banel gyda “rhai o’r bobol sy’n gwneud i bethau ddigwydd yn lleol”.
Dan arweiniad yr awdur ac actores, Mari Emlyn, byddan nhw’n trafod pwysigrwydd y pethau sydd eu hangen i gynnal cymunedau, yn enwedig wrth adfer o’r pandemig.
Hefyd, bydd gweithdai creadigol ar greu cynnwys amlgyfrwng yn rhan o’r digwyddiad lansio, yn cynnwys un gyda Dylan Iorwerth ar ‘sut i fod yn ohebydd bro’.
“Mae gwefannau bro yn gwneud mwy nag adrodd am fywyd cymunedau – maen nhw’n ganolog i’r bywyd hwnnw,” meddai Dylan Iorwerth.
“Mae’r straeon, y fideos a’r lluniau yn difyrru a rhannu gwybodaeth ond hefyd yn annog ac ysbrydoli. Maen nhw’n rhan o fwrlwm bro.”
Mae croeso i bawb ddod i’r lansiad, tra bod nifer gyfyngedig o lefydd ar gael ar weithdy gohebu Dylan Iorwerth.