Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi awgrymu y dylid gwrthod cais cynllunio ar gyfer cyrchfan gwyliau gwerth £60m ar gyrion Caernarfon.

Bwriad y datblygwyr, Maybrook Investments, yw troi safle hen ffatri Ferodo a Phlas Brereton yn llety gwyliau a pharc dŵr, gan gynnwys bwytai, safle bowlio deg, sba a siopau.

Cafodd hen safle’r ffatri darnau ceir ei gau yn 2008, a byddai’r plasty, sydd hefyd wedi bod yn wag ers peth amser, yn cael ei adfer yn rhan o gynllun Gwêl y Fenai.

Yn ôl y datblygwyr, byddai hyd at 80 o swyddi yn cael eu creu, gydag amcangyfrif y byddai £1.28m yn cael ei gynhyrchu i’r economi leol erbyn 2024, gan ddenu 32,000 o ymwelwyr.

Ond mae adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn nodi y dylai aelodau wrthod y cynllun oherwydd yr effeithiau gweledol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r effeithiau posib ar y Gymraeg.

Mae rhai aelodau o’r cyhoedd, yn ogystal â Chyngor Tref Caernarfon, hefyd wedi mynegi anfodlonrwydd gyda’r cynllun, gan restru’r iaith ac effeithiau llifogydd posib o Afon Menai fel rhesymau.

Roedd bwriad i godi 208 llety gwyliau yn wreiddiol, ond cafodd y ffigwr ei gyfyngu i 173.

Y Gymraeg

Mae nifer o adrannau’r Cyngor wedi lleisio pryderon hefyd, gan gynnwys adran y Gymraeg.

“Mae gennym bryder arbennig am y cyfleoedd cyflogaeth sy’n cael eu cynnig – gyda dim ond 79 o swyddi yn cael eu hamcangyfrif o ganlyniad uniongyrchol i’r cais – a sut y byddai’r rhain yn cyfrannu at sefydlogrwydd yr iaith yn yr ardal,” meddai’r adran.

“Mae datganiad yn cael ei wneud ynghylch ceisio cadw pobl ifanc yn yr ardal, heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwnnw.

“Mae’r nifer hwn yn ymddangos yn isel o ystyried maint y datblygiad a’r cyfleusterau sy’n cael eu crybwyll, a hoffem weld mwy o wybodaeth am yr elfennau hyn.”

Safle’r cynlluniau ar gyrion Caernarfon

Cynaliadwyedd

Ond roedd cais Maybrook Investments yn dweud bod “gwir angen” llety gwyliau yn yr ardal er mwyn cynyddu’r economi’n lleol.

“Mae Maybrook Investments eisiau datblygu’r ddau safle, ac rydym yn gweld y gwerth y bydd hynny’n ei gael yn lleol,” meddai’r cwmni.

“Mae hi’r un mor bwysig fod Cyngor Gwynedd am weld y ddau safle yn datblygu i fod yn brosiectau cynaliadwy ac wedi eu cynllunio’n dda, sydd am ffurfio mynedfa ddeniadol i Gaernarfon.”

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn trafod y cais ddydd Llun, Tachwedd 22.