Mae ffermwyr ar Ynys Môn wedi derbyn cefnogaeth yn eu hymdrech i gadw peiriant gwerthu llefrith.

Roedd cynnig wedi’i wneud y dylai pwyllgor cynllunio Cyngor Ynys Môn wrthod caniatáu i’r cwt pren lle mae Llefrith Nant yn cael ei werthu, sydd wedi’i adeiladu’n barod yn Neuadd, Cemaes, gael aros yno.

Ond brynhawn heddiw (3 Tachwedd), fe wnaeth cynghorwyr wrthod cyngor swyddogion, a chefnogi’r cynlluniau’n unfrydol gan dynnu sylw at fuddiannau economaidd a’r effaith gymharol fach ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Roedd y safle sydd ger yr A5025 wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Cymuned Llanbadrig, yn ogystal â chefnogaeth leol eang, gyda’r llefrith yn dod gan wartheg y teulu.

Cefndir

Cafodd y cynigion ar gyfer Neuadd eu gwneud gan Gareth Jones o’r fferm laeth deuluol gerllaw, Nant y Frân, Cemaes, ac mae’r safle wedi bod yn weithredol ers mis Gorffennaf.

Nid yr ymgeiswyr sy’n berchen ar y safle, ond roedden nhw wedi dod i gytundeb gyda pherchennog ffarm Neuadd, ac roedd y datblygiad wedi arwain at greu un swydd lawn amser.

Fodd bynnag, roedd adroddiad gan swyddogion cynllunio’r awdurdod yn argymell gwrthod y cynlluniau gan dynnu sylw at achosion o dorri polisi. Roedd y rhain yn cynnwys honiadau y byddai’r cynnig yn arwain at “ddatblygu siop mewn ardal wledig agored mewn modd annerbyniol ac anghyfiawn”, a oedd yn mynd yn groes i ganllawiau cynllunio, medden nhw.

Wrth ymateb i’r pwyllgor, dywedodd Gareth Jones: “Ni fyddai sefydlu siop yng Nghemaes wedi bod yn ymarferol, mae dod o hyd i lefydd parcio yn anodd yn y gaeaf ond yn amhosib yn yr haf.

“Mae’r adborth wedi bod yn gyson gadarnhaol, gyda chwsmeriaid yn dweud bod prynu’n uniongyrchol o’r ffarm yn rhan o’r profiad.”

Dywedodd Mr Jones ei fod yn teimlo ei bod hi’n hanfodol bod y busnes ar agor ar gyfer tymor prysur yr haf pan ofynnwyd iddo pam adeiladodd y cwt heb ganiatâd cynllunio.

Addas

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at y gefnogaeth leol eang a’r pwysigrwydd o gael cynnyrch mwy “lleol ac o safon uwch”, gan ddisgrifio’r busnes fel un “cynaliadwy” a chroesawodd ei fod yn creu swyddi.

Aeth y Cynghorydd Ken Hughes yn ei flaen i ddweud: “Mae’r raddfa a’r dyluniad yn gyfan gwbl addas i’r ardal a ni fydd yn niweidio’r ardal o gwbl.”

Fe wnaeth aelodau gytuno y dylid ond rhoi’r caniatâd tra mai Mr Jones sy’n berchen ac yn rhedeg y safle.

Cafodd y bleidlais unfrydol ei phasio ar sail cefnogi busnes gwledig lleol, a theimlad na fyddai’n effeithio’n negyddol ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gogledd Ynys Môn.

Gan fod yr aelodau wedi mynd yn groes i gyngor swyddogion, bydd y cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer cael ei gymeradwyo’n derfynol ar ôl mis o “gyfnod callio”.