Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer pont newydd £1.2 miliwn ym Mhen Llŷn.

Daw hyn wrth i Gyngor Sir Gwynedd baratoi am fewnlifiad o bobol i Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Fe gafodd Pont Bodfel, sy’n dyddio’n ôl i 1805, ei tharo gan gerbyd yn 2019, ac fe wnaeth un o’r pileri gwympo i’r dŵr.

Golygodd hynny bod y strwythur rhestredig Gradd II yn anniogel, ac roedd teithwyr yn wynebu gwyriad wyth milltir o hyd oddi wrth yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan ger Pwllheli.

Oherwydd yr anghyfleustra hynny, fe gafodd pont dros dro ei hadeiladu’n fuan wedyn, ond bydd hwnnw nawr yn cael ei gyfnewid am strwythur parhaol gwerth £1.2 miliwn.

Bydd y ffordd yn hanfodol ar gyfer trefniadau’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, gan mai’r A497 fydd y brif ffordd i’r safle.

Adfer

Fe fydd beth sy’n weddill o’r hen bont yn cael ei hadfer fel pont gerdded ar gyfer yr Eisteddfod honno ac i’r dyfodol.

Roedd y Cyngor wedi ystyried ceisio adfer y bont ar gyfer cerbydau, ond roedd hynny’n rhy heriol, a bod “dim dewis” ond adeiladu pont newydd sy’n fwy cadarn.

Roedd y Cynghorydd Owain Williams yn croesawu’r bont newydd.

“Fel rhywun o Ddwyfor, dw i’n croesawu’r cynlluniau hyn, sydd eu hangen yn fawr iawn,” meddai.

“Mae wedi bod yn bont eithaf cas a pheryg, a bydd y rheiny sy’n ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei weld fel ychwanegiad hwylus dw i’n siŵr.”