Mae rhan o ffordd yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog wedi cael ei chau oherwydd llifogydd.

Daw hyn yn sgil rhybudd melyn am law trwm gan y Swyddfa Dywydd, sy’n effeithio’r rhan fwyaf o Gymru, ac mae tri rhybudd llifogydd wedi eu cyhoeddi yng Ngwynedd a Chonwy.

Mae’r rhybuddion hynny yn cwmpasu ardaloedd o amgylch Afon Conwy o Ddolwyddelan i Gonwy, afonydd yng ngogledd-orllewin Cymru o Abergwyngregyn i Aberdaron, a hefyd o amgylch Afon Glaslyn ac Afon Dwyryd, o Ddyffryn Ardudwy i Nant Gwynant.

Fe alwodd Cyngor Gwynedd ar drigolion lleol i gynllunio teithiau ymlaen llaw, a chymryd gofal wrth deithio.

A499

Ffordd yr A499 yw’r brif ffordd i drigolion sy’n byw yn ardal Llanbedrog ac Abersoch, ac mae cau’r ffordd yn golygu bod rhaid canfod ffordd amgen i fynd i Bwllheli, sef un o brif drefi’r ardal.

Roedd un sy’n byw yn lleol wedi ymateb yn ddig ar Twitter i’r cyhoeddiad gan Gyngor Gwynedd, gan ddweud y byddai “miloedd o bobol” fwy neu lai yn “gaeth” oherwydd y cyfyngiadau teithio.

Roedd hefyd yn gofyn am leddfu’r senario hon rhag digwydd yn y dyfodol.