Mae Rishi Sunak wedi gwadu y bydd newidiadau i’r dreth ar gyfer teithwyr awyr yn arwain at gynnydd sylweddol mewn hediadau, gan gyfrannu at allyriadau carbon.

Defnyddiodd y Canghellor ei Gyllideb i dorri trethi ar hediadau rhwng meysydd awyr yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae hyn yn ymgais i roi hwb i feysydd awyr lleol “a dod â phobol at ei gilydd ledled y Deyrnas Unedig”.

Beirniadodd Llafur y penderfyniad gan ddweud ei fod yn “anghredadwy” ar drothwy uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow yr wythnos nesaf.

Mae Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, yn mynnu y dylai pobol gael eu hannog i ddefnyddio trenau yn lle awyrennau.

Allyriadau Carbon

Bydd hedfan o fewn y Deyrnas Unedig yn mynd yn rhatach, gyda’r dreth ar gyfer teithwyr awyr yn cael ei haneru.

Mae hyn wedi arwain at feirniadaeth gan y gwrthbleidiau y bydd yna filoedd yn fwy o bobol yn teithio ar awyrennau, ar adeg pan fo gweinidogion yn ceisio mynd i’r afael ar frys â newid yn yr hinsawdd.

 

“Ddyddiau cyn dechrau COP26, prin fod yr hinsawdd wedi ymddangos yn araith y Canghellor,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ar ei chyfrif Twitter.

“Nid yw’n rhoi dim i Gymru ar fuddsoddi ar y rheilffyrdd, ac yn hytrach mae’r Canghellor yn penderfynu gwneud teithiau byr yn rhatach.

“Mae hwn yn esgus byr dymor sydd i’r gwrthwyneb i arwain ar newid hinsawdd.”

400,000 yn fwy o hediadau

Mae’r Canghellor wedi ymateb yn amddiffynnol i’r awgrym y bydd y penderfyniad yn arwain at 400,000 yn fwy o hediadau domestig y flwyddyn.

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd ei bod yn bwysig edrych ar y penderfyniad “yn gyfan”, ochr yn ochr â chyflwyno band treth uwch newydd ar gyfer “hediadau pell”.

Nod y Canghellor yw “dychwelyd i’r system yr oeddem yn arfer ei chael, felly nid yw pobol sy’n hedfan o fewn y Deyrnas Unedig yn cael eu trethu ddwywaith, ac nid oeddem byth yn credu eu bod yn iawn”.

“Mae’n cefnogi’r Undeb, mae’n cefnogi meysydd awyr rhanbarthol sy’n gyflogwyr mawr ond hefyd, os ydych chi’n cymryd cam yn ôl, dim ond tua 7 neu 8% o’n hallyriadau carbon cyffredinol ac o hynny, rwy’n credu bod awyrennau domestig yn llai na 5% felly mae’n gyfran fach iawn.”

 

Cyllideb: £2.5 biliwn ychwanegol i Gymru

Jacob Morris

Yn ei ail gyllideb ers y pandemig, dywedodd Rishi Sunak ei fod yn addo “economi cryfach y dyfodol” mewn “oes o optimistiaeth”