Mae Deidre Brock, llefarydd amgylchedd yr SNP yn San Steffan, wedi gofyn am ragor o fanylion am y cwch Albanaidd sydd wedi’i feddiannu gan awdurdodau Ffrainc.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bygwth dial pe bai Ffrainc yn gosod sancsiynau ar gychod pysgota Prydeinig.

Mae Ffrainc yn rhybuddio y byddan nhw’n gosod sancsiynau ar gychod sy’n pysgota’n anghyfreithlon o Dachwedd 2.

Yn ôl George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan, mae’r weithred yn groes i gyfreithiau rhyngwladol ac fe fydd y Deyrnas Unedig yn “ymateb yn briodol” pe bai Ffrainc yn gwneud hynny.

Ac mae’n dweud bod swyddogion yn cynnal ymchwiliad i adroddiadau bod y cwch Albanaidd wedi’i feddiannu oddi ar arfordir Ffrainc wrth i’r ffrae am hawliau pysgotwyr barhau.

Ymateb yn yr Alban

“Mae gennym ni gapten llong pysgota cregyn bylchog Albanaidd yn disgwyl mynd i’r llys,” meddai Deidre Brock, llefarydd amgylchedd yr SNP yn San Steffan.

“Yn syml iawn, dydy hi ddim yn ddigon da nad oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol atebion i’r cwestiynau hynny.

Yn ôl George Eustice, roedd y cwch ar restr a gafodd ei darparu gan Sefydliad Rheolaeth y Môr i’r Undeb Ewropeaidd, ac felly wnaeth yr Undeb Ewropeaidd ddim rhoi trwydded i’r cwch.

“Rydyn ni’n gweld adroddiadau, am ryw reswm, eu bod nhw wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr maes o law, mae’n aneglur ar hyn o bryd pam fod hynny wedi digwydd.

Dywed ei fod yn aros am ragor o fanylion gan yr awdurdodau yn yr Alban, a’i fod yn disgwyl ymateb yn fuan.