Mae Cynghorwyr yn Sir Gâr wedi dweud y dylen nhw sicrhau bod pob enw tŷ neu stryd newydd yn Gymraeg,

Fe wnaethon nhw gymeradwyo cynnig gan y Cynghorydd John James i fabwysiadu polisi ar gyfer datblygiadau newydd, a fyddai’n cyflwyno’r iaith i fwy o drigolion y sir.

Roedd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr aelod cabinet dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, yn gwahodd James i weithio gydag ef oherwydd bod gan y cyngor fframwaith enwi eisoes.

Fframwaith

Mae’r fframwaith, yn ôl Peter Hughes Griffiths, wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ystyried strydoedd newydd,

Er hynny, fe wnaeth gyfaddef bod dim modd iddyn nhw orfodi hynny’n gyfreithiol, felly awgrymodd bod y cyngor yn gofyn i’r Gweinidog Jeremy Miles a Llywodraeth Cymru i roi’r pwerau perthnasol iddyn nhw.

Dywedodd hefyd bod gan y cyngor chwaith ddim grym wrth atal enwau ffermydd Cymraeg rhag cael eu newid i rai Saesneg.

Fe ychwanegodd y Cynghorydd Alun Lenny bod gan dref Caerfyrddin hanes Rhufeinig cyfoethog gydag enwau Cymraeg, a byddai’r cynnig yn “gyfle rhagorol i roi hynny yn llythrennol ar fap.”

Yr arfer o ddisodli enwau Cymraeg â rhai Saesneg yn “fygythiad i hunaniaeth y genedl”

Cynog Dafis yn dweud bod newid enwau yn “ddifrod diwylliannol” wedi i safle glampio yn ei gyn-gartref dderbyn yr enw Saesneg ‘Upper Eagle Farm’