Mae Cyngor Ynys Môn wedi derbyn cais i droi hen ysgol gynradd yn lletyau gwyliau.
Byddai adeilad Ysgol Gynradd Llanddeusant yn troi’n llety pedair ystafell pe bai’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo.
Pan oedd dim ond 18 disgybl ar ôl, fe gafodd yr ysgol ei chau yn 2011 ar ôl darparu addysg i gymuned ehangach Tref Alaw am 164 mlynedd.
Ers hynny, roedd y safle wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd i gwmni peirianneg Cadarn Consulting Engineers, sydd wedi bod yn adeiladu tai yn y pentref.
Maen nhw bellach wedi symud i Langefni gan adael yr adeilad yn wag unwaith eto.
Bydd y cynlluniau ond yn gwneud newidiadau bychan i du allan yr adeilad, gydag unrhyw beth mawr yn digwydd y tu fewn yn unig.
“Etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol”
Fe gafodd ei nodi yn nogfennau’r cais gan Dr Masood Malik y byddai’r datblygiad yn “gwarchod yr adeilad am genedlaethau i ddod,” ac yn rhoi “hwb i’r economi leol” ac “annog twristiaeth” i’r ynys.
Pwysleisiodd Dr Malik y byddan nhw’n ceisio nodi hanes cyfoethog yr adeilad, a manteisio ar atyniad cyfagos Melin Llynon – yr unig felin wynt draddodiadol sydd yn parhau i fod yn weithredol yng Nghymru.
“Er mwyn cynnal treftadaeth ddiwylliannol yr adeilad, byddaf yn rhoi arddangosfa wrth fynedfa’r adeilad yn amlinellu hanes yr ysgol,” meddai.
“Byddaf yn arddangos lluniau, erthyglau papur newydd, digwyddiadau arwyddocaol a chyn-ddisgyblion.
“Rwyf eisoes wedi siarad ag aelodau o’r gymuned sy’n hapus iawn i gyflwyno lluniau a phethau cofiadwy ar gyfer yr arddangosfa.
“Bydd yn etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol ac yn gydnabyddiaeth o hanes anghofiedig.
“Byddwn yn hapus i’r cyngor fod yn rhan o hyn os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny i ddathlu’r gymuned leol.”
Bydd pwyllgor cynllunio Ynys Môn yn ystyried y cais dros y misoedd nesaf yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd a Chyngor Cymuned Tref Alaw.