Mae’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i ailddatblygu parc gwyliau yng Ngwynedd wedi ei ohirio.
Byddai’r cynlluniau gwerth £13 miliwn yn Hafan y Môr ger Pwllheli yn creu 58 o swyddi parhaol.
Mewn cyfarfod ddydd Llun (4 Hydref), fe wnaeth swyddogion awgrymu y dylai pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r cynnig gan gwmni Haven, sy’n rheoli’r safle.
Ond gyda phryderon dros faint y cynlluniau – a gafodd eu galw’n “orddatblygu” gan un cynghorydd – fe wnaeth aelodau bleidleisio i ohirio gwneud penderfyniad tan iddyn nhw ymweld â’r safle eu hunain.
Cynlluniau
Fel rhan o’r datblygiad, byddai caffi yn cael ei adeiladu ar lan y môr, a byddai’r hen fflatiau ‘Butlins’ – 56 ohonyn nhw i gyd – yn cael eu dymchwel.
Hefyd, bydden nhw’n gwneud lle i 154 carafán statig newydd ac adeiladu dau lety i staff dros saith llain o dir ar wahân.
Mae Hafan y Môr yn cyflogi dros 400 o staff eisoes, ac mae cwmni Haven yn pwysleisio bod swyddi’n cael eu hysbysebu’n lleol yn gyntaf.
“Cyflogwyr da”
Roedd y cynghorydd lleol, Peter Read, yn croesawu “moderneiddio” safle Hafan y Môr a chynnig mwy o swyddi yn yr ardal.
“Mae’r gweithwyr a’r contractwyr bron i gyd yn bobol leol o Gymru ac rwy’n gefnogol iawn o’u hymdrechion,” meddai.
Ategodd y Cynghorydd Edgar Owen at hynny, gan ddweud bod y cwmni wedi bod yn “gyflogwyr da” dros y blynyddoedd.
“Bydd Llŷn ddim yr un fath os ydyn ni’n parhau fel hyn”
Er hynny, nododd y Cynghorydd Simon Glyn ei “bryderon sylweddol,” gan alw’r cynigion yn “orddatblygiad.”
“Maen nhw am ymestyn y lletyau staffio trwy greu 76 o unedau newydd,” meddai.
“Does dim angen i bobol leol fyw ar y safle felly mae’n amlwg os ydyn nhw am adeiladu’r rhain mai’r bwriad yw dod â mwy o weithwyr o ymhellach i ffwrdd.”
Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes bod y cynigion yn arddangos “haerllugrwydd enfawr” ac mai “arian sy’n siarad,” gan honni bod hi ddim yn bosib i gynghorwyr wneud penderfyniad call heb allu gweld y safle drostyn nhw eu hunain.
“Mae’r datblygiad o leiaf chwe gwaith yn fwy na Llanegryn – y pentref lle rydw i’n byw,” meddai.
“Pryd fyddan nhw’n fodlon – pan fydd y safle’n cyrraedd Aberdaron?
“Bydd Llŷn ddim yr un fath os ydyn ni’n parhau fel hyn.”