Mae cais i groesawu trydydd teulu o ffoaduriaid o Syria i dref Aberteifi wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion.

Yn dilyn hynny, fe wnaeth grŵp Croeso Teifi, sy’n gyfrifol am y cais, wneud apêl i ganfod llety ar eu cyfer yn y dref.

Roedden nhw wedi ceisio ailsefydlu’r teulu cyn cyfnod pandemig Covid-19 ond yn dilyn yr oedi, maen nhw’n gobeithio gallu croesawu’r teulu o fewn yr wythnosau nesaf.

Y gobaith yw rhoi cartref i’r teulu mewn tŷ tair ystafell sydd ar gael i’w rentu yn Aberteifi.

Croeso Teifi

Cafodd menter Croeso Teifi ei sefydlu yn 2016 er mwyn croesawu pobol oedd yn ffoi oherwydd Rhyfel Cartref Syria.

Mae dau deulu o’r wlad eisoes wedi cael eu hailsefydlu yn y dref, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr ac arian gan drigolion lleol.

Mae’n debyg bod y sefyllfa i ffoaduriaid o’r wlad yn parhau i fod yn ddybryd oherwydd problemau economaidd a chymdeithasol mewn llefydd fel Libanus, sydd wedi rhoi lloches i filiynau o Syriaid.

“Ar ôl saib hir oherwydd y pandemig, rwy’n falch o allu rhoi gwybod i chi i gyd ein bod wedi derbyn ein cais am ailsefydlu trydydd teulu ffoaduriaid i Aberteifi,” meddai Croeso Teifi ar Facebook.

“Roedden ni’n ddigon ffodus i dderbyn rhodd hael sydd wedi darparu’r arian cychwynnol inni ac mae gennym gylch gwych o wirfoddolwyr.

“Byddai croeso bob amser i unrhyw un arall a all gynnig ychydig o amser ar gyfer tasgau penodol neu gyfeillgarwch cyffredinol pan fydd y teulu’n cyrraedd.”