Bydd cydnabyddiaeth yn cael ei roi i Dinah Williams, ffermwr organig arloesol o Geredigion, drwy ymgyrch Placiau Porffor Cymru.

Bu Dinah Williams, a gafodd ei geni yn 1911, yn ffermio â’i merch, Rachel Rowlands, a aeth yn ei blaen i sefydlu Rachel’s Organic – brand llaeth organig cyntaf Cymru.

Yn ystod ei bywyd, ymroddodd Dinah Williams i weithio dros y tir, a dilynodd ei huchelgais o ffermio gan ddilyn ei chred ym mhŵer natur, a’r angen i ystyried y gadwyn fwyd gyfan.

Roedd hi’n credu bod y bwyd a’r maeth sy’n cael ei roi i unrhyw beth byw, boed yn blanhigyn, yn anifail neu’n berson ifanc yn bwysig, a bod hynny’n dangos sut y dylid rheoli’r pridd er mwyn cynhyrchu bwyd.

Bydd seithfed Plac Porffor Cymru’n cael ei ddadorchuddio yn ei chartref, Brynllys, Dol-y-bont, Borth, ger Aberystwyth heddiw (24 Medi).

Dinah Williams

Ym 1952 daeth Dinah Williams yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas y Pridd.

Ei fferm, Brynllys, oedd y fferm laeth organig gyntaf, ac yn y 70au daeth yn aelod o gyngor Cymdeithas y Pridd.

Arweiniodd hynny at gydweithio â’r Cadfridog Sedley Sweeney a sefydlodd yr Ysgol Ffermio Tibetaidd ger Aberhonddu.

Cyfrannodd hefyd at brosiect Bryn Gwyn yn ne Cymru, a oedd yn defnyddio dulliau organaidd i adfer gweundiroedd yn dilyn cloddio am lo.

Ynghanol y 70au roedd Dinah yn allweddol o ran ffurfio Cymdeithas Bridd Gorllewin Cymru, a bu’n llywydd yr English Guernsey Catlle Society, a Chymrawd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol.

Fel merch ifanc bu’n ffermio gyda’i mam, yna gyda’i gŵr, ac wedyn gyda’i merch a’i mab-yng-nghyfraith, gan arwain at sefydlu Rachel’s Dairy, brand llaeth organig cyntaf Cymru.

“Ysbrydoliaeth”

Dywedodd Rachel Rowlands, merch Dinah Williams, bod “heddiw yn ddiwrnod balch iawn i’n teulu wrth weld cyfraniad mam i’r symudiad organig yn cael ei ddathlu gyda’r Plac Porffor hwn.

“Mae hi’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i bawb oedd yn ei hadnabod ac a gafodd eu tywys gan ei doethineb.”

“Nodi llwyddiannau”

Cafodd Placiau Porffor Cymru eu lansio yn 2018, a Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, oedd yn gyfrifol am y syniad.

“Mae Placiau Porffor wedi’u dylunio i nodi llwyddiannau menywod o bob maes yng Nghymru er mwyn helpu i ddweud eu straeon ysbrydoledig i’r genhedlaeth nesaf,” meddai Julie Morgan AoS.

“Roedd Dinah yn arloeswr organig, a lledaenodd ei dylanwad dros Gymru ac mae hi’n ychwanegiad hyfryd at deulu’r Placiau Porffor.”