Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wedi caniatáu i Faes Awyr Llanbedr gael gofod awyr cyfyngedig er mwyn profi, buddsoddi a datblygu eu gwaith ymchwil.

Roedd Canolfan Awyrofod Eryri, sy’n profi dronau, awyrennau trydan, balŵns uchder uchel, a cherbydau sy’n agos at y gofod eisiau creu ‘Ardal Berygl’ barhaol er mwyn caniatáu profi pellach yng Ngwynedd.

Yn ôl y cwmni, doedd y trefniadau presennol ddim yn ddigon i gwrdd â’u gofynion a’r risgiau, ac yn cyfyngu ar eu cyfleoedd.

Mae’r caniatâd yn golygu bod gweithgaredd o fewn neu dros yr ardal a allai beryglu awyrennau wedi’i wahardd, a daw’r ardal i rym ar unwaith.

Ni fydd yr ardal yn weithredol drwy’r amser, a bydd y cwmni’n rhybuddio awyrenwyr eu bod nhw’n gweithio yno 24 awr ymlaen llaw.

Mae’r ardal yn cynnwys yr arfordir o Abermaw i Harlech, mewn am y tir dros Gwm Nantcol, ac ardal dros Fae Ceredigion.

Yn ystod ymgynghoriad ar y mater llynedd, dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd 90% o’r gweithrediadau sy’n defnyddio’r ardal yn digwydd dros y maes awyr neu dros y môr.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd nodi ar y pryd nad yw’r datblygiadau’n gysylltiedig â hyfforddiant milwrol.

Pan bleidleisiodd cabinet Cyngor Gwynedd o blaid cynlluniau i ariannu isadeiledd y ganolfan awyrofod ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth ymgyrchwyr leisio pryderon gan ei alw’n le sy’n “arbenigo mewn lladd”.

“Newyddion da”

Gwrthododd Prif Weithredwr Canolfan Awyrofod Eryri’r feirniadaeth bryd hynny gan fynnu y byddai’r buddsoddiad yn “gwella a chynnal” swyddi hir dymor.

Mae’r cynllun yn rhan o gynllun hirdymor ar gyfer Maes Awyr Llanbedr, a allai greu 515 o swyddi a chyfrannu £19.5 miliwn y flwyddyn i’r economi leol unwaith y bydd wedi’i ddatblygu’n llawn, yn ôl Canolfan Awyrofod Eryri.

Yn ôl Cynghorydd Llanbedr, Annwen Hughes, “mae’n rhaid croesawu unrhyw hwb economaidd” i’r ardal.

“Mae hyn yn newyddion da i Llanbedr, i Wynedd ac i Gymru,” meddai’r Cynghorydd Annwen Hughes, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.

“Prif gynllun tymor hir Maes Awyr Llanbedr yw creu dros 500 o swyddi a buddsoddi £19.5m bob blwyddyn i’r economi leol. Mae’r datblygiad hwn yn rhan o’r cynllun mawr hwnnw.

“Yn y rhan yma o Wynedd, mae’n rhaid i ni groesawu unrhyw hwb economaidd, fel bod swyddi o ansawdd, hyfforddiant ac addysg bellach i bobl ifanc a rhagolygon da ar gael i bobl leol ar gyfer y dyfodol.

“Mae swyddi a hyfforddiant yn hanfodol i sicrhau bod pobol ifanc yn parhau i fyw a gweithio yn y rhan yma o Feirionnydd.”

“Cymysgedd unigryw”

Dywedodd Jeremy Howett, Arweinydd Hedfan y Dyfodol gydag Awyrofod Eryri, eu bod nhw’n “falch o gyhoeddi bod Ardal Berygl barhaol newydd o amgylch Maes Awyr Llanbedr wedi’i chymeradwyo gan yr Awdurdod Hedfan Sifil er mwyn cefnogi’r datblygiad parhaus systemau hedfan newydd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys dronau-er-da, y genhedlaeth nesaf o gerbydau awyr trydan, a systemau lansio ac adfer ar gyfer mynd i’r gofod”.

“Yn dilyn cwblhau’r broses newid gofod awyr CAP1616 24 mis ffurfiol, mae’r Ardal Berygl newydd, EG D217, ar gael ar unwaith (Medi 2021) ac yn cynnig cymysgedd unigryw o amgylcheddau profi ar y tir, yr arfordir, dros y môr a thros fynyddoedd, a choridor yn cysylltu â 7000 cilomedr sgwâr ychwanegol o ofod awyr dros Fae Ceredigion ar gyfer profi cyrhaeddiad, gwytnwch, a [systemau] uchder uchel, ac agos at y gofod.”