Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid cynlluniau i ariannu isadeiledd canolfan awyrofod yn y sir.

Mae Canolfan Awyrofod Eryri wedi ei leoli ym Maes Awyr Llanbedr ger Harlech, ac mi fydd Cynghorwyr yn bwrw ati i fuddsoddi £500,000 er mwyn datblygu’r safle.

Bydd £250,000 o’r swm yma yn cael ei dalu o flaen llaw, a’r hanner arall yn dod o Gronfa Cydariannu Cyngor Gwynedd.

Bydd yr arian yn cyfrannu at ffordd fynediad newydd a gwelliannau i gyfleusterau’r maes, ac yn ôl dogfen gan y Cyngor gall y buddsoddiad arwain at greu 100 o swyddi.

Mae disgwyl i’r cynllun gostio cyfanswm o £25m, gydag arian gan Lywodraeth Cymru, Ewrop a’r sector breifat yn cael ei gyfrannu yn ogystal â buddsoddiad y Cyngor.

Mater dadleuol

Mae ymgyrchwyr wedi lleisio pryderon am y safle gan ei alw’n le sydd yn “arbenigo mewn lladd”.

Mae Prif Weithredwr y ganolfan wedi gwrthod y feirniadaeth gan fynnu bydd y buddsoddiad yn “gwella a chynnal” swyddi hir dymor.