Mae nifer yr hysbysiadau a’r dirwyon a roddwyd i eiddo trwyddedig Ceredigion sy’n ymwneud â thorri rheoliadau Covid-19 wedi cael ei amlygu mewn pwyllgor yr wythnos hon.

Parhaodd swyddogion diogelu’r cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion i ymweld â safleoedd trwyddedig a busnes ledled y sir yn ystod y pandemig i sicrhau bod rheoliadau coronafeirws yn cael eu dilyn.

Mewn adroddiad i’r pwyllgor trwyddedu ddydd Iau (16 Medi) tynnwyd sylw at y ffaith bod wyth hysbysiad cydymffurfio wedi eu rhoi ers mis Mawrth 2020, ynghyd â 39 o hysbysiadau gwella, naw hysbysiad cosb benodedig, pum hysbysiad cyfarwyddyd, saith hysbysiad cau a phedwar hysbysiad gwahardd.

Cafodd dau gais am adolygiadau trwydded safle eu gwneud yn Bar 46, Aberystwyth, a Gwesty’r Castell, Aberaeron, ond cafodd y materion eu datrys cyn bod angen gwrandawiad.

Dywedodd y swyddog safonau masnach Anne-Louise Davies nad oedd wedi bod yn hawdd yn ystod y pandemig a bod “swyddogion wedi cael rhai anawsterau gyda rhai busnesau ac wedi cael bygythiadau, felly mae wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o bobol.”

Roedd y “mwyafrif llethol” o fusnes ac eiddo wedi cydymffurfio â’r rheoliadau ond roedd angen cymryd camau gorfodi ffurfiol, gyda rhai busnesau’n derbyn hysbysiadau ar sawl achlysur.

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gareth Davies, dywedodd Anne-Louise Davies, y byddai archwiliadau yn Bar 46 yn cynyddu yn y cyfnod cyn wythnos y glas ac roedd Gwesty’r Castell wedi cael ei wirio yn ystod yr haf prysur.

Clywodd y pwyllgor hefyd fod “llefydd sydd wedi troseddu fwy nag unwaith” wedi talu dirwyon i’r cyngor a bod trafodaethau wedi bod am addasrwydd grantiau Covid Llywodraeth Cymru ar gyfer safleoedd o’r fath, ond bod polisi’n golygu bod rhaid eu talu.