Mae’n bosib bod cyflwyno tâl ar gyfer casglu gwastraff gardd wedi bod yn “gamgymeriad,” meddai un cynghorydd ym Môn.
Daw’r sylwadau ar ôl i gyfraddau ailgylchu a chompostio ar yr ynys ostwng yn ddiweddar.
Fe gafodd adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn nodi bod cwymp blynyddol wedi bod yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio.
Mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer chwarter cyntaf 2021/22 yn dangos bod 64.6% o wastraff wedi’i ailgylchu – i lawr o 72.8% yn chwarter cyntaf 2019/20 a 67.1% ar gyfer yr un cyfnod yn 2020/21.
Roedd hynny er gwaetha targed Cyngor Ynys Môn o gyrraedd 70% eleni.
Hefyd, roedd 593 tunnell yn llai o wastraff gardd wedi ei gasglu ar yr ynys yn ôl y ffigyrau diweddaraf – i lawr o 2,456 tunnell yn chwarter cyntaf 2020/21.
Cyflwyno tâl
Mae’n cael ei gydnabod fod pobol yn treulio mwy o amser adref oherwydd y pandemig, a bod hynny’n debygol o effeithio ar batrymau ailgylchu.
Er hynny, mae’r penderfyniad i gyflwyno ffi flynyddol o £35 ar gyfer casglu gwastraff gardd wedi ei nodi fel ffactor tu ôl i’r gostyngiadau diweddar.
Ynys Môn oedd yr awdurdod lleol olaf yng ngogledd Cymru i orchymyn tâl o’r math hwn pan gafodd ei gyflwyno yn Ebrill 2021.
Roedd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r cyfraddau ostwng ychydig i ddechrau.
“Mae canran y gwastraff gwyrdd wedi gostwng, sydd o bosib am ein bod ni’n codi ffi am wastraff gardd am y tro cyntaf erioed,” meddai.
“Fe wnaethon ni ragweld y byddai’n gostwng ychydig, ond mae grŵp llywio wedi’i sefydlu sy’n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru ac rydyn ni am weld Ynys Môn yn ôl ar frig y gynghrair ailgylchu fel oedden ni dair neu bedair blynedd yn ôl.”
‘Camgymeriad?’
Mae dau safle ailgylchu yng Ngwalchmai a Phenhesgyn wedi cael eu cau dros dro yn ystod y pandemig.
Roedd John Arwel Roberts, arweinydd grŵp Llafur Cyngor Ynys Môn, yn credu bod y ffigyrau diweddaraf yn ddim i wneud ag effeithiau Covid.
“Mae gostyngiad o 593 tunnell yn eithaf sylweddol ac yn awgrymu fod y gwastraff wedi mynd i’r biniau cyffredinol du yn lle, felly bydd hynny’n cael effaith,” meddai.
“Nid wyf yn gweld bod ganddo unrhyw beth i’w wneud â Covid.
“Gofynnais ym mis Ionawr beth oedd y risgiau sy’n gysylltiedig â chyflwyno tâl am finiau gwyrdd, ond mae bellach wedi’i brofi.
“Mae pobl yn rhoi eu gwastraff gardd yn y biniau du ac fel cyn ddeiliad portffolio, dydw i ddim yn gallu gweld beth mae’r grŵp llywio hwn yn mynd i’w gyflawni i newid y sefyllfa.
“Ydyn ni wedi gwneud camgymeriad wrth gyflwyno’r tâl hwn?”