Mae 301 o achosion newydd o’r coronafeirws wedi’u cofnodi gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ôl ystadegau heddiw (Dydd Gwener, 10 Medi).
Dengys yr ffigyrau bod 183 achos newydd yn Sir Gaerfyrddin, 61 yn Sir Benfro, a 57 yng Ngheredigion ers yr adroddiad diwethaf.
Mae cyfanswm nifer yr achosion dros y tair sir nawr ar 25,002 – 15,378 yn Sir Gaerfyrddin, 6,345 yn Sir Benfro a 3,279 yng Ngheredigion.
Mae un farwolaeth newydd wedi’i chofnodi yn ardal Hywel Dda, gyda’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig nawr ar 497.
Gyda’i gilydd, mae 2,467 o achosion Covid-19 wedi’u hadrodd dros Gymru heddiw gan ddod â’r cyfanswm cenedlaethol i 303,743.
Mae 24,429 o brofion wedi’u cynnal ers yr adroddiad diwethaf.
Mae pum marwolaeth Covid newydd wedi’u hadrodd yng Nghymru, gyda’r cyfanswm marwolaethau dros Gymru’n cyrraedd 5,726.
Dros Gymru, mae 2,365,263 o bobol wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19, a 2,196,957 wedi derbyn dau ddos.
Hyd at 1 Medi, roedd 558,694 o ddosys cyntaf ac ail wedi cael eu rhoi o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a 4,515 yn y saith niwrnod diwethaf.
Yn Sir Gaerfyrddin, sydd â phoblogaeth o 188,771, mae 134,486 o ddosys cyntaf wedi cael eu rhoi (71.2%) a 124,083 o ail ddosys (65.7%).
Mae 53,169 dos cyntaf (73.1%) wedi cael eu rhoi yng Ngheredigion, sydd â phoblogaeth o 72,695, a 49,555 ail ddos (68.2%).
Yn Sir Benfro, sydd â phoblogaeth o 125,818, mae 93,595 dos cyntaf wedi cael eu rhoi (73.8%) a 87,247 o ail ddosys (69.3%).