Mae dau dŷ wedi cael eu neilltuo yng Ngheredigion ar gyfer teuluoedd sydd wedi ffoi o Affganistan.

Roedd aelodau Cabinet y Cyngor Sir eisoes wedi cefnogi penderfyniad yr arweinydd Ellen ap Gwynn i gyfrannu at y cynllun ailsefydlu fis diwethaf, ar ôl i’r Taliban oresgyn y wlad.

Dywedodd Ellen ap Gwynn mewn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Medi 7), fod galw am y llety preifat sydd ar gael, a bod wyth opsiwn wedi cael eu clustnodi.

Mae dau o’r rheiny wedi cael eu hystyried yn addas fel llety ffoaduriaid.

Efelychu cynllun Syria

Bydd y Cyngor yn defnyddio systemau sydd yn eu lle ers iddyn nhw fod yn derbyn ffoaduriaid o Syria dros y pum mlynedd diwethaf.

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet Alun Williams nodi mai Ceredigion oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymrwymo i dderbyn ffoaduriaid o Syria, a’i “bod hi ond yn iawn i’r cyngor chwarae rhan debyg yn rhoi cymorth i bobol o Affganistan hefyd”.

Bydd Cyngor Ceredigion hefyd yn ystyried cynnig llety i gefnogi pobol ddigartref yn y sir, ac mae Alun Williams yn credu bod hynny’n “fudd ehangach o’r sefyllfa.”

Dyletswydd

Fe gytunodd Ellen ap Gwynn i gyfrannu at gynllun ailsefydlu ffoaduriaid o Affganistan fis diwethaf.

“Mae’r sefyllfa yn Affganistan wedi datblygu i fod yn argyfwng dyngarol a’n dyletswydd ni yw ymateb a chynnig cymorth i’r rheiny yr effeithiwyd arnynt,” meddai bryd hynny.

“Mae ein meddyliau gyda’r bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwrthdaro, gan gynnwys unrhyw un sy’n byw yma fel cyn-filwr, pobol Affganistan a’r rheiny sy’n ffoi am eu bywydau.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i berchnogion eiddo yng Ngheredigion sydd wedi cynnig eu heiddo; mae haelioni a charedigrwydd ein trigolion yn destun balchder mawr.”