Mae cynlluniau i atgyweirio morglawdd yn Ynys Môn wedi cael eu gwrthod oherwydd y pryderon ynghylch olion o’r Oes Haearn.

Fe gafodd cais ei gyflwyno i Gyngor Ynys Môn i gyfnewid y strwythur presennol yn Nhraeth Lleiniog ger Penmon am un newydd, er mwyn atal tonnau rhag gorlifo i dŷ cyfagos.

Roedd perchennog y tŷ hwnnw’n honni bod angen gwneud y gwaith ar frys gan fod y morglawdd mewn cyflwr “gwael”.

Yn dilyn y cais, fe wnaeth cynghorwyr lleol leisio’u pryderon am yr effaith ar amgylchedd y traeth, sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd yr olion sy’n deillio o’r Oes Haearn.

Hefyd, mae’r mwyafrif o arfordir Ynys Môn, gan gynnwys Traeth Lleiniog, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio’r Cyngor wrthod y cynlluniau mewn cyfarfod ddoe (dydd Mercher, Medi 1).

‘Hanesyddol bwysig’

Mae Gary Pritchard yn un o’r cynghorwyr sydd yn erbyn y cynlluniau oherwydd y difrod y byddai’n ei wneud i’r olion.

“Byddai caniatáu i beiriannau mor drwm gael eu llusgo ar hyd traeth mor hanesyddol bwysig yn creu pryder gwirioneddol yn lleol,” meddai.

“Sut ydych chi’n adfer cerrig sy’n dyddio’n ôl 15,000 o flynyddoedd?

“Dyma un o’r safleoedd mwyaf hanesyddol bwysig o’i fath yn Ewrop.

“Dydw i ddim yn teimlo bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn dderbyniol o gwbl… ac rwy’n annog [y pwyllgor] i wrthod heddiw.”

‘Fandaliaeth amgylcheddol’

Roedd Gary Pritchard eisoes wedi rhoi datganiad gyda’i gyd-gynghorwyr Carwyn Jones ac Alun Roberts yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

“Mae’r traeth ei hun o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei dreftadaeth rewlifol,” meddai’r datganiad.

“Byddai croesi’r ardal sensitif hon gyda pheiriannau trwm yn achosi difrod anadferadwy.

“Er mwyn ei roi’n blwmp ac yn blaen, gall y cynllun hwn achosi fandaliaeth amgylcheddol.

“Byddai adeiladu’r amddiffynfeydd môr yn achosi newidiadau i brosesau arfordirol a allai fygwth tir ac eiddo.

“Byddai’r newidiadau hyn yn cael eu sbarduno gan newid hinsawdd, lefelau môr yn codi a thywydd mwy stormus yn y dyfodol agos.”