Mae cynlluniau i adeiladu fflatiau ar hen safle clwb ym Mangor lle arferai grŵpiau fel Maffia Mr Huws chwarae erstalwm.

Bydd y 25 fflat fforddiadwy yn cael eu hadeiladu ar hen safle Clwb Rheilfordd Bangor ac yn cael ei reoli gan gwmni Adra, sy’n darparu tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru.

Mae’r safle ar Ffordd Euston wedi bod yn segur ers i Glwb y Rheilffordd gael ei ddymchwel yn 2016, a bu ar y farchnad ers 2020.

Cafodd ei agor yn wreiddiol yn 1898 fel lle i weithwyr y rheilffordd gymdeithasu drwy weithgareddau.

Fe ddaeth yn ganolbwynt i sin gerddoriaeth leol Bangor, gan hybu artistiaid fel Yr Ods, Plant Duw ac Yr Eira, a chroesawu artistiaid mwy sefydledig fel Maffia Mr Huws ac Euros Childs.

Roedd hen gynlluniau i adeiladu fflatiau i fyfyrwyr yn 2015, ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod gan awdurdodau cynllunio.

‘Angen’

Mae Adra wedi cyflwyno’r cynlluniau newydd er mwyn lleihau’r rhestrau aros yn lleol ac i liniaru’r effeithiau ar unigolion sy’n gorfod talu “treth ystafell wely.”

“Mae’r safle wedi’i glustnodi ar gyfer ailddatblygu ers nifer o flynyddoedd, ac mae wedi bod ar y farchnad fel cyfle posib i ddatblygu llety preswyl neu fyfyrwyr,” meddai’r darparwr tai cymdeithasol.

“Gan ystyried y cefndir hwn, penderfynodd Adra y byddai’r safle’n rhoi cyfle i ddatblygiad fodloni’r angen am dai fforddiadwy ym Mangor.”

Bydd awdurdod cynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried y cais dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â chynnal ymgynghoriad â chyrff statudol a chyngor y ddinas.