Mae caniatâd wedi’i roi i droi capel a gafodd ei ddylunio gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis yn dŷ.
Cafodd Capel Moriah yn Llanystumdwy ei ddylunio yn 1936 ar ôl i’r adeilad blaenorol gael ei ddinistrio mewn tân.
Mae Syr Clough Williams-Ellis yn fwyaf adnabyddus am ddylunio pentref Portmeirion rhwng 1925 a 1975.
Roedd capel y pentref wedi bod ynghau ers sawl blwyddyn cyn i gais cynllunio gan ddyn o Lundain i’w droi yn dŷ gael ei dderbyn.
Fe wnaeth Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r cais yn unfrydol, a doedd dim gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned lleol chwaith.
Bydd y gwaith yn cynnwys newidiadau mewnol ac allanol i’r adeilad, er bod y cais yn nodi y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddiogelu’r adeilad rhestredig.
‘Cadw holl nodweddion hanesyddol’
Dywedodd y penseiri Parry Davies Architects mewn dogfen ategol i’r cais y bydd edrychiad yr adeilad yn aros fwy neu lai yr un peth.
“Mae’r eglwys o’r pwys mwyaf ymysg yr eiddo Gradd II sydd yn y cyffiniau, ac i’n cleient,” meddai llefarydd.
“Mae’n ased treftadaeth bwysig a bydd gwaith gofalus yn cael ei wneud i sicrhau hirhoedledd yr adeilad.
“Rhaid nodi hefyd na fydd y gwaith yn effeithio ar unrhyw un o nodweddion, ffurf na wyneb yr adeilad.
“Wrth ddiogelu’r adeilad ac ehangu cymeriad y capel, rydyn ni’n cydymffurfio’n llawn.
“Dydy’r gwaith ddim ar gyfer effeithlonrwydd cost, ond ar gyfer cadw’r holl nodweddion hanesyddol sydd yma.”