Mae cynlluniau wedi eu cyhoeddi i adeiladu cartrefi cymdeithasol yng Nghaernarfon i leihau’r rhestrau aros yn lleol.

Fe wnaeth Adra, sy’n darparu tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru, gyflwyno cais ar gyfer adeiladu 17 o dai, sydd i gyd rhwng dwy a phedair ystafell wely, ar Ffordd Bethel.

Bydd y rhan fwyaf o’r tai dros y ffordd i Ysgol Syr Hugh Owen yn cael eu categoreiddio fel tai cymdeithasol, gyda’r gweddill yn dai rhent canolradd.

I fod yn gymwys am un o’r tai cymdeithasol, bydd rhaid i enwau ymgeiswyr fod ar Gofrestr Dai Cyffredin Gwynedd.

Y safle presennol ar Ffordd Bethel. Llun o’r dogfennau cynllunio.

“Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac i fodloni’r angen am dai fforddiadwy yng Nghaernarfon, mae’r ymgeiswyr wedi penderfynu parhau gyda chynllun tai fforddiadwy 100% ar y safle,” meddai’r datganiad ategol i’r cais cynllunio.

“Byddan nhw’n darparu cymysgedd o eiddo rhwng dwy a phedair ystafell wely, ac yn rhoi cyfle i deuluoedd sy’n byw mewn cartrefi anaddas ar hyn o bryd i gael cartref newydd gyda gardd breifat wedi’i lleoli mewn lleoliad hawddgar.

“Byddai hyn yn hwyluso gwahanol deuluoedd i sefydlu cartref yn yr ardal trwy wella amodau byw pob aelod.”

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais yn yr wythnosau nesaf.