Mae tai fforddiadwy am gael eu hadeiladu ar safle hen orsaf reilffordd Bethesda.
Bydd cymdeithas dai Grŵp Cynefin dan reolaeth o’r cynllun gwerth £2.5m sydd am weld 17 o gartrefi yn cael eu hadeiladu.
Eu bwriad wedyn ydy gosod y cartrefi fel tai cymdeithasol mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, gyda’r cynllun yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Fe gaeodd yr orsaf reilffordd ym Methesda yn 1963, ac mae hen adeiladau’r clybiau rygbi a phêl-droed ar y safle hefyd.
Mae disgwyl i’r gwaith fod wedi ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2022.
‘Hygyrch a fforddiadwy’
Mae Grŵp Cynefin yn rheoli 4,800 o gartrefi ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys, ac maen nhw’n ymrwymo i gynnal cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
“Mae darparu cartrefi hygyrch a fforddiadwy, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn greiddiol i ni, ac rydym yn gyffrous o weld dechrau’r gwaith adeiladu ar y prosiect hwn,” meddai’r rheolwr datblygu, Gwyndaf Williams.
“Mae gwir angen tai ar gyfer teuluoedd a chyplau o amgylch Bethesda, felly rydym yn falch o allu cynorthwyo’r rhai sy’n gobeithio parhau i fyw yn yr ardal ond sydd wedi cael trafferth dod o hyd i dai addas a fforddiadwy yn y gorffennol.
“Mae’n braf gallu datblygu’r eiddo newydd ar un o’r safleoedd cyfarfod pwysicaf yn y dref ar un cyfnod ac rydym yn bwriadu anrhydeddu cymaint o dreftadaeth yr hen orsaf ag sy’n bosib.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd trigolion y cartrefi newydd yn gwreiddio fel rhan o’u cymuned leol diolch i’r lleoliad canolog sy’n agos at drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd, caeau hamdden a llwybr beicio’r Lôn Las.”
Mae cwmni adeiladu Gareth Morris o Langollen eisoes wedi cychwyn ar y gwaith sydd i’w gwblhau ymhen saith mis.