Bu cynnydd sylweddol yn y cwynion swyddogol am niwsans sŵn  yng Nghastell-nedd Port Talbot (CNPT) ac Abertawe yn ystod y pandemig.

Derbyniodd Cyngor CNPT gyfanswm o 1,282 o gwynion sŵn yn ystod 2020/21 yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth a gafodd ei gyflwyno gan Wasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

Roedd hynny yn gynnydd o 60% o’i gymharu â’r ffigyrau ar gyfer 2019/20.

Yn Abertawe, roedd 4,247 o gwynion niwsans sŵn yn 2020/21 o gymharu â 3,555 yn 2019/20.

Fe wnaeth swyddogion y cyngor hwnnw anfon 142 o lythyrau rhybuddio, cyhoeddi 48 o hysbysiadau atal ac erlyn un troseddwr am fod yn rhy swnllyd.

Cynnydd ledled y wlad

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor CNPT bod yr un patrymau i’w gweld ar draws y Deyrnas Unedig.

“O ran cwynion sŵn, bu cynnydd cyffredinol ledled y DU yn ystod y pandemig,” meddai.

“Mae ffigyrau o ymchwil y cwmni inswleiddio Rockwool yn awgrymu bod y pandemig wedi arwain at gynnydd o 29% mewn cwynion sŵn i awdurdodau lleol ledled y wlad.”

Yn ôl gwefan y cyngor, y mathau mwyaf cyffredin o gŵyn sŵn y mae’n delio â nhw yw sŵn mewn cartrefi, sŵn masnachol neu ddiwydiannol, a cherbydau.

Grymoedd cynghorau

Mae gan gynghorau’r pŵer i roi rhybuddion ac mewn rhai achosion maen nhw’n gallu cosbi’n ariannol am niwsans sŵn.

Gall methu â thalu dirwy mewn pryd arwain at ddirwy o hyd at £ 1,000 i gartrefi a gall y ffi fod yn ddiderfyn ar gyfer adeiladau trwyddedig.

Does gan awdurdodau lleol ddim pwerau i ddelio â sŵn penodol fel traffig, plant / pobl ifanc, neu longau awyr milwrol.