Mae heddwas Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei ddiswyddo ar ôl iddo gyffwrdd cydweithwyr mewn modd rhywiol a siarad am blesio ei hun.

Ymddangosodd y Cwnstabl Simon England gerbron panel annibynnol am y tro cyntaf dros ddwy flynedd yn ôl, yn dilyn adroddiadau ei fod wedi “ymddwyn a gwneud sylwadau rhywiol amhriodol” tuag at gydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys.

Byddai canfyddiadau’r panel wedi galluogi iddo ddychwelyd i’w ddyletswyddau rheng flaen, ond ar ôl adolygiad barnwrol i’r gwrandawiad cychwynnol, a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2019, cafodd y swyddog ei ddwyn o flaen panel arall yr wythnos hon, dan oruchwyliaeth Mrs Sally Olsen, cadeirydd â chymwysterau cyfreithiol.

Fe wnaeth Simon England gyfaddef pob cyhuddiad yn ei erbyn, a derbyniodd fod ei ymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Fodd bynnag, nid oedd yn cydnabod ei fod yn haeddu cael ei ddiswyddo am ei ymddygiad.

Roedd y panel yn anghytuno ag ef, a chafodd ei ddiswyddo o’r llu.

Ar ôl y penderfyniad i’w ddiswyddo, dywedodd y Prif Gwnstabl dros dro Claire Parmenter o Heddlu Dyfed-Powys:

“Mae’r heddlu, a hynny’n gwbl briodol, yn disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad proffesiynol gan ei swyddogion a’i staff, fel y mae’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a’u hamddiffyn.

“Ni all ac ni fydd yr heddlu’n goddef ymddygiad o’r math hwn.

“Byddwn bob amser yn cymryd camau i amddiffyn ein swyddogion, ein staff, a heb amheuaeth, y cyhoedd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal hyder y cyhoedd yn yr heddlu, ac ni ellir cynnal hyder y cyhoedd drwy ganiatáu i unigolion sy’n ymddwyn yn y fath fodd aros yn y sefydliad.”