Mae sefydliadau yn y de-orllewin yn cael eu gwahodd i geisio am grant i ddatblygu prosiectau cymunedol.
Gallan nhw wneud cais am hyd at £2,000 o gynllun Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru.
Mae disgwyl i’r prosiectau ddathlu cymunedau a chryfhau’r ymdeimlad o berthyn, drwy gynnal digwyddiad sy’n addysgu a datblygu.
Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ganolbwyntio ar dri math o ddigwyddiad sef:
- digwyddiadau coffáu neu gefnogi, er enghraifft Mis Hanes Pobl Dduon, Mis Hanes LGBT neu Ddiwrnod Rhyngwladol Anableddau.
- digwyddiadau i ddod â sawl cymuned ynghyd, er enghraifft cyd-goginio neu grwpiau cerddoriaeth i bobl o wahanol genedlaethau.
- prosiectau sy’n ymgysylltu â chymunedau lleiafrifol, er mwyn hyrwyddo cydlyniad cymunedol a lleihau tensiynau.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau yw Awst 31.