Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi ysgrifennu llythyr ar Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd i fynegi pryderon ynglŷn â’r diwydiant twristiaeth yn Llanberis.
Mae hi’n honni bod angen “gweithredu ar frys” i leddfu pryderon pobol leol, gydag un ohonyn nhw’n datgelu maint y broblem wrth siarad â golwg360.
Daw sylwadau Siân Gwenllian yn dilyn cynnydd mewn sbwriel, problemau parcio a straen ar wasanaethau lleol oherwydd y cynnydd diweddar mewn ymwelwyr yn yr ardal.
Roedd yr ardal wedi dioddef straen eisoes y llynedd wrth i reolau parcio gael eu hanwybyddu.
‘Fydd ymwelwyr ddim yn dod yn ôl’
Yn ei llythyr, mae Siân Gwenllian yn galw am weithredu gan y Cyngor i wella’r sefyllfa.
“Rwyf yn ymwybodol o’r problemau sydd yn codi yn Llanberis yn sgil yr ymchwydd mewn poblogaeth oherwydd bod cynifer o ymwelwyr yn yr ardal,” meddai.
“Mae angen gweithredu er lles y diwydiant twristaidd yn lleol hefyd.
“Fydd ymwelwyr ddim yn dod yn ôl i’r ardal os oes sbwriel ac aflendid, problemau parcio a thensiynau yn codi.
“Mae’r Cyngor Cymuned wedi ysgrifennu atoch gydag awgrymiadau sydd yn synhwyrol iawn yn fy marn i ac erfyniaf arnoch i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd er mwyn gweithredu cynllun yn Llanberis a’r ardal fydd o les i’r boblogaeth leol a’r diwydiant twristaidd.
“Hyderaf fod modd symud yn gyflym er mwyn datrys y problemau sydd yn effeithio ar bawb, yn drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Sefyllfa yn ‘lloerig’
Dywed un perchennog busnes, sy’n dymuno aros yn ddienw rhag ofn iddi dderbyn ymateb ffyrnig, fod y sefyllfa yn y pentref yn un “erchyll”.
“Mae hi’n lloerig yma,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n byw yng nghanol y pentref, a dw i jyst isio nhw roi arwydd i fyny sy’n dweud: ‘plîs parchwch drigolion lleol’.
“Maen nhw’n parcio o flaen dy dŷ am ddau neu dri o’r gloch y bore ac yn gwneud coblyn o sŵn.
“Ti’n cael pobol yn dod yma sydd ddim isio talu am faes parcio, gadael lot o sbwriel ymhob man, a maen nhw’n gwneud eu busnes ar y stryd.
“Lawr am y lagwns a’r chwarel, dydy pobol ddim yn mynd â’u sbwriel oddi yno, ac mae yna lanast ar eu holau nhw.”
‘Lle mae pobl leol fod i barcio?’
Wrth ystyried ffyrdd i leihau’r problemau parcio ac ysbwriel, mae’r perchennog busnes yn awgrymu rhai datrysiadau.
“Mae’r cyngor yn clirio weithiau, ond mae angen mwy o fins a rhywun yma’n clirio yn ystod y dydd,” meddai.
“Dw i ddim yn dallt pam eu bod nhw ddim yn cau’r lagwns yn y nos achos mae yna bobol yn aros yno am wythnosau.
“Ti’n cael pobl yn parcio ar y stryd hefyd am hydoedd, felly lle mae pobl leol fod i barcio wedyn?
“Mae ardal chwarel Glyn Rhonwy yn wag felly fysa hynny’n datrys y broblem parcio.”
Yn waeth dros y penwythnos
Mae’r sefyllfa yn Llanberis yn tueddu i fod yn waeth ar y penwythnos gyda mwy o ymwelwyr yn y pentref bryd hynny.
“Mae pobl yn mynd fyny’r Wyddfa’n gynnar yn y bore.” meddai wedyn.
“Mae dydd Gwener a Sadwrn yn uffernol, achos mae yna fysus mini yn stopio o flaen y tŷ ac mae pobol jyst yn gweiddi ar ei gilydd peth cyntaf yn y bore.
“Dydyn nhw jyst ddim yn meddwl am bobol leol.”