Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Carys Fôn Williams, 50, yn bennaeth Adran Tai ac Eiddo newydd.

Bydd hi’n olynu Dafydd Gibbard a benodwyd yn Brif Weithredwr y Cyngor yn gynharach eleni.

Wedi ei magu yn Y Ffôr a mynychu ysgolion Bro Plenydd ac Ysgol Glan Y Môr, astudiodd radd mewn Iechyd yr Amgylchedd yng Nghaerdydd.

Mae wedi gweithio ym myd llywodraeth leol ers 1993 ac i Gyngor Gwynedd ers 1996.

Dechreuodd ei chyfnod gyda Chyngor Gwynedd fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac yna Uwch Reolwr Gweithredol Tai.

Bydd hi’n cychwyn ar ei rôl fel Pennaeth Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd ar 2 Awst, 2021.

“Anrhydedd”

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy newis i arwain y maes pwysig yma ar adeg mor allweddol,” meddai Carys Fôn Williams.

“Ers sefydlu’r Adran Dai ac Eiddo newydd yn 2019, mae Cyngor Gwynedd wedi cymryd camau breision tua’r nod o sicrhau bod gan bobl y sir fynediad at gartrefi fforddiadwy.

“Ym mis Rhagfyr, fe fu i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gweithredu Tai cyffrous fydd yn golygu buddsoddiad o £77 miliwn yn y maes dros y blynyddoedd nesaf.

“Yn ogystal, mae ein cynllun rheoli asedau yn sicrhau buddsoddiad o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn i wella adeiladau’r Cyngor fel ysgolion, llyfrgelloedd, cartrefi gofal sydd mor bwysig i bobol y sir.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd ac i arwain y tîm talentog o swyddogion yn yr adran i droi’r weledigaeth yn realiti.”

“Gweledigaeth bendant”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, sy’n Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, mae ganddo ni weledigaeth bendant a chynllun clir am sut yr ydan ni am daclo’r argyfwng tai sy’n peryglu ein cymunedau.

“Mae hyn yn cynnwys datblygu 1,500 o gartrefi fforddiadwy i bobl Gwynedd dros y chwe blynedd nesaf.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio efo Carys i sicrhau fod cymaint â phosib o bobl Gwynedd yn cael yr hawl greiddiol i gartref addas yn eu cymunedau eu hunain.”