Mae Bro360, sef cynllun cwmni Golwg i annog cymunedau i greu a rhannu straeon lleol ar-lein, wedi lansio gŵyl newydd.

Nod Gŵyl Bro yw cynnal cyfres o ddigwyddiadau lleol ar hyd a lled y wlad, sy’n cael eu cynnal dros yr un penwythnos – rhwng Medi 3 a Medi 5.

Ddydd Mawrth, Gorffennaf 20, bydd pecyn yr ŵyl yn cael ei gyhoeddi, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gynnal y digwyddiadau lleol.

Bydd sesiwn Zoom yn cael ei gynnal brynhawn dydd Mawrth am 5:15yh i gyflwyno’r pecyn ac i gasglu syniadau am beth allai cymunedau ei gynnal.

‘Pwysigrwydd ein cymuned yn fwy amlwg nag erioed’

“Mae bywyd yn fwy diflas ers Covid,” meddai Lowri Jones, Cydlynydd Bro360.

“Y cyfleoedd i gymdeithasu yw un o’r pethau mwya’ mae pobol yn gweld eu heisiau, ond mae Covid wedi newid rhai pethau er gwell – ac yn ystod y cyfnodau clo yn enwedig mae pobol wedi gweld mai eu milltir sgwâr oedd eu byd i raddau helaeth.

“Mae pwysigrwydd ein cymuned a’n lle lleol yn fwy amlwg nag erioed.”

‘Dod â phobl leol ynghyd’

Meddai Anwen Pierce o Bow Street, a helpodd i greu’r pecyn: “Erbyn hyn, wrth i’r rhaglen frechu fynd yn ei blaen ac wrth i bawb ddychmygu a chynllunio bywyd wedi Covid, mae angen i ni gael rhywbeth cymdeithasol, positif i edrych ymlaen ato.

“Mae hwn yn gyfle ac yn adeg berffaith i roi hwb i weithgarwch lleol a dod â phobl leol ynghyd am y tro cyntaf ers oes, mewn ffordd saff.”

Mae croeso i unrhyw un yn unrhyw gymuned yng Nghymru archebu pecyn Gŵyl Bro am ddim, ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth fydd o gymorth wrth drefnu digwyddiad.

E-bostiwch post@bro360.cymru am fwy o wybodaeth, neu i gael copi o’r pecyn.