Mae cynghorydd o Aberystwyth wedi dweud byddai gadael i dai llai o faint droi’n dai amlfeddiannaeth (house of multiple occupation) yn cael effaith ar deuluoedd sy’n ceisio cael troed ar yr ysgol dai.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher (Gorffennaf 14), fe wnaeth Cyngor Ceredigion drafod cais newid defnydd i dŷ ar Ffordd Penglais yn y dref.
Yn flaenorol, polisi Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor oedd gwrthod tai amlfeddiannaeth, ond yn dilyn apêl, gwelwyd bod dyddiad y polisi hwnnw wedi dod i ben yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf Gynllunio.
Bu i swyddogion felly argymell cymeradwyo’r cais.
‘Effaith andwyol’
Ond dywedodd y cynghorydd Ceredig Davies, y byddai’n pleidleisio yn erbyn cymeradwyo’r cais, gan y byddai’r newid yn cael “effaith andwyol ar y farchnad dai” yn y dref.
Roedd ganddo bryderon am ddatblygwyr yn “troi eu cefnau ar dai mwy o faint gan brynu tai llai,” meddai.
“Byddai hyn yn arwain at lai o dai ar gyfer teuluoedd sy’n ceisio cael troed ar yr ysgol dai.
“Mae hyn yn gamgymeriad llwyr.”
Clywodd y pwyllgor sydd yn gyfrifol am y cais y byddai yr effaith o newid statws y tŷ ar yr ardal yr un peth ag effaith tŷ teulu o’r un maint, ac nad oess rheswm dros wrthod y cais o ran polisi cynllunio.
Er bod Cyngor Tref Aberystwyth yn gwrthwynebu’r newid am eu bod yn “erbyn tai amlfeddiannaeth yn gyffredinol”, fe gefnogodd y pwyllgor y cais a’i gymeradwyo.
Roedd 11 aelod o blaid, tri yn erbyn, gydag un yn ymatal ei bleidlais.