Bydd ymgyrch i greu brand i gyd-hyrwyddo busnesau awyr agored sy’n gallu darparu gwasanaethau Cymraeg yn cael ei lansio yn y gogledd heddiw heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 5).
Mae’n fwriad i’r cynllun hyrwyddo busnesau sy’n cynnig profiad Cymreig i ymwelwyr hefyd, drwy olrhain hanes Cymru, enwau llefydd, mytholeg, byd natur a rhoi blas ar y wlad.
Yn dilyn cyfnod anodd i’r sector, bydd Mentrau Iaith Gwynedd (Hunaniaith), Bangor, Conwy a Môn yn lansio cynllun CAMU ar y ffrynt yn Ninas Dinlle am 5yp.
Bydd dau o’r cwmnïau sy’n rhan o’r cynllun, Elfennau Gwyllt a Pellennig, yn rhan o’r lansiad, gan ddarparu gweithdai natur glan y môr i blant a chynnal gwers syrffio i’w haelodau.
Mae yna ddiffyg cynrychiolaeth o siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y sector awyr agored yn y gogledd-orllewin, ac mae’n fwriad i’r cynllun fynd i’r afael â hynny.
‘Parhau i dyfu’
Ers dros ddegawd, mae Menter Iaith Conwy wedi bod yn ariannu hyfforddiant i ddarparu hyfforddwyr yn y sector awyr agored.
Gan ariannu dros 300 o hyfforddwyr dros y cyfnod hwnnw sydd bellach yn gweithio yn y maes neu yn rhedeg busnes, mae’n golygu bod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sector wedi cynyddu ers 2003.
“Yn ôl yn 2003, dim ond oddeutu 5% o weithlu’r diwydiant yn y Gogledd Orllewin fedrai siarad Cymraeg,” meddai Meirion Davies, Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy.
“Diolch yn rhannol i waith Menter Iaith Conwy, trwy gyllid Cronfa Datblygu Gwledig a chefnogaeth barhaus gan Gronfa Arbrofol Eryri, cododd y ganran i 28% erbyn yn 2011.
“Ers hynny rydym wedi parhau i hyfforddi a chanolbwyntio ar gymwysterau uwch.
“Ond mae’r maes yn parhau i dyfu ac rydym yn awyddus iawn i barhau efo’r gwaith yma.”
“Tangynrychiolaeth”
“Fe wyddom ers tua 20 mlynedd bod tangynrychiolaeth o bobl leool a siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y sector awyr agored yng Ngogledd Orllewin Cymru,” eglura Llywela Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu, Menter Iaith Gwynedd (Hunaniaith).
“Mae’r ymgyrch yma rhwng pedair Menter Iaith a detholiad o fusnesau sector awyr agored yn rhan o’r cynlluniau i geisio mynd i’r afael â hynny.
“Gyda’r sector awyr agored yn profi’n fwy poblogaidd nag erioed, mae angen sicrhau bod cyfleoedd gwaith newydd sbon ar gael i bobol ifanc lleol dwyieithog sy’n dilyn cyrsiau awyr agored yn ein Hysgolion Uwchradd a Cholegau.
“Hefyd, ein gobaith, dros amser, yw gweld nifer mwy o fusnesau ac unigolion yn ymaelodi hefo CAMU wrth iddo ddatblygu ac ymestyn.”
“Darlun a phrofiad gwirioneddol Gymreig”
“Fel cwmni sy’n gweithio yn yr awyr agored yng Ngwynedd, rydym yn croesawu’n fawr yr ymgyrch hwn i godi ymwybyddiaeth a chefnogi busnesau Cymraeg lleol mewn sector lle nad yw’r mwyafrif o ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael darlun a phrofiad gwirioneddol Gymreig,” meddai Stephen Jones, perchennog cwmni Anelu.
“Rydym yn awyddus iawn i newid hynny a rhannu stori Cymru gyda phlant a phobol o bob oed sy’n mwynhau’r profiad Cymreig.”