Mae gofyn i Grŵp o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth hunanynysu am ddeng niwrnod yn sgil achos Covid-19 yn yr ysgol.

Yn ogystal, mae gofyn i ddisgyblion sy’n teithio ar ddau fws hunanynysu am ddeng niwrnod hefyd.

Daw’r disgyblion hynny o fwy nag un grŵp blwyddyn yn yr ysgol.

Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion i nodi cysylltiadau agos â’r achos.

Bydd disgyblion yn cael gwybod cyn gynted â phosib a fydd hi’n bosib iddyn nhw ddychwelyd i’r ysgol , meddai Cyngor Sir Ceredigion.

Fe fydd yr holl ddisgyblion sy’n gorfod hunanynysu yn cael eu haddysgu o bell am y cyfnod hwn.

Mae’r ysgol wedi cysylltu â rhieni’r disgyblion hyn, a bydd Tîm Olrhain Cyswllt Ceredigion yn cysylltu â chysylltiadau agos.

Profion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog pob rhiant i gyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • tymheredd
  • uchel
  • peswch parhaus newydd
  • Colli neu newid yn eu gallu i arogli neu flasu
  • Symptomau annwyd yr haf – gan gynnwys dolur gwddw, trwyn yn rhedeg, cur pen
  • Symptomau tebyg i’r ffliw – gan gynnwys cyhyrau poenus, blinder parhaus, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn, tisian yn barhaus, dolur gwddw a/neu grygni, prinder anadl neu wichian.
  • unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol blaenorol.

Dylai rhieni sicrhau eu bod nhw’n trefnu prawf Covid-19 os yw eu plentyn yn teimlo’n sâl yn gyffredinol a bod ganddo/i hanes o fod mewn cysylltiad ag achos o Covid-19 sydd wedi’i gadarnhau.

Gydag achosion Covid-19 wedi cynyddu yn yr wythnosau diwethaf, mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog pobol i barhau i gadw pellter cymdeithasol o ddwy fetr, gwisgo masg dan do, golchi dwylo a sicrhau bod digon o awyr iach tu mewn.