Mae grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Penglais yn Aberystwyth yn hunanynysu ar ôl i achos o Covid-19 gael ei gadarnhau yno.
Mae disgyblion o sawl blwyddyn sy’n teithio ar yr un bws wedi cael gwybod ac mae gofyn iddyn nhw aros gartref a hunanynysu am ddeng niwrnod hefyd.
Byddan nhw’n cael eu haddysgu o bell wrth iddyn nhw hunanynysu, ac mae’r holl rieni wedi cael gwybod am y sefyllfa ac fe fyddan nhw’n cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.
Mae rhieni’n cael eu hannog i fynd â’u plant am brawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau canlynol:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas
- Symptomau annwyd yr haf – gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
- Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (cyhyrau poenus); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
- Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol yn flaenorol
Yn ogystal, dylai rhieni sicrhau eu bod yn trefnu prawf COVID-19 os yw eu plentyn yn teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.
Mesurau
Mae pobol yn cael eu hannog i barhau i gadw pellter o ddwy fetr oddi wrth ei gilydd, gwisgo mwgwd dan do, golchi dwylo’n rheolaidd a sicrhau bod digon o awyr iach dan do.
Dywed y Cyngor na fyddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr achos yn Ysgol Penglais.