Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi eu bod nhw am gyflogi swyddogion i oruchwylio a chynghori beicwyr modur dros yr haf.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i gynghorydd sir godi pryderon ynghylch ymddygiad rhai pobol sy’n ymweld ag Aberystwyth ar feiciau modur, meddai’r Cambrian News.
Dros benwythnos cyntaf mis Mehefin roedd dwsinau o feicwyr modur i’w gweld ar y prom, ac er ei bod hi’n olygfa “dda i lawer,” fe wnaeth y Cynghorydd Mark Strong feirniadu ymddygiad “lleiafrif swmpus”.
Yn ôl Mark Strong, doedd “40 da” o’r beicwyr heb barcio yn yr ardal beiciau modur sydd ar y prom, a’u bod nhw’n amharu ar y groesfan sebra.
“Anghyfrifol ac esgeulus”
Doedd nifer o’r beicwyr ddim yn dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol, gyda rhai’n gyrru lawr y prom ar fore Sul yn gwneud “twrw dychrynllyd”, a “gyda dim ystyriaeth i ymwelwyr mewn gwestai a allai fod eisiau cysgu’n hwyr ar fore Sul”, meddai Mark Strong.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod nhw am gyflogi swyddogion ymwelwyr dros yr haf i siarad gyda phreswylwyr ac ymwelwyr, yn ogystal ag adnabod unrhyw bryderon.
Ar ôl cysylltu â’r heddlu, dywedodd Mark Strong eu bod nhw wedi cael “ambell air clên gyda’r beicwyr modur” ond nad oedden nhw wedi gwrando.
“Dw i wedi fy ngwylltio gan ymddygiad anghyfrifol, ac esgeulus ar adegau, lleiafrif swmpus o’r beicwyr sy’n pardduo enw da nifer o feicwyr sy’n cadw at reolau,” meddai Mark Strong.
“Roedd nifer o rai’r penwythnos hwn ddi-hid o anystyriol tuag at ddiogelwch eraill.
“Dw i wedi siarad droeon gyda’r heddlu am fy mhryderon ynghylch diogelwch ar y prom.
“Yn y diwedd mae’n gyfrifoldeb ar yr heddlu i weithredu a dirwyo yn hytrach na pharhau i rybuddio pobol sy’n tueddu i dorri rheolau dro ar ôl tro pan mae hi’n dod at ddiogelwch eraill.
“Gobeithio bydd yr heddlu’n trefnu cyfarfod gyda swyddogion y cyngor sir er mwyn sortio’r mater cyn bod rhywun yn cael ei anafu neu ei ladd.”
“Mwynhau’n saff a chyfrifol”
“Roedd nifer y beicwyr modwyr a wnaeth ymweld yn anarferol o uchel ar un o’r dyddiau Sul, ac fe wnaeth rhai ohonyn nhw barcio tu allan i’r ardal bwrpasol sydd ar eu cyfer,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
“Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf yn parchu eraill a’r amgylchedd leol, gyda nifer yn hoff o’u gweld nhw.
“Yr heddlu sydd gan bŵer i weithredu dros bryderon trefn gyhoeddus, a ni allen nhw gael eu monitro na’u gweithredu gan swyddogion parcio Ceredigion.
“Mae’r cyngor yn bwriadu cyflogi cynorthwywyr ymwelwyr dros fisoedd yr haf. Bydden nhw’n siarad gydag ymwelwyr a phreswylwyr lleol er mwyn cynnig gwybodaeth a chyngor ynghylch sut i fwynhau Ceredigion yn saff a chyfrifol.”