Mae un o enillwyr The Apprentice, Alana Spencer, am agor siop yng Nghaernarfon.

Daw ei chyhoeddiad wedi iddi agor dwy siop gacennau newydd yn Llandudno a Chaerdydd dros yr wythnosau diwethaf.

Gan ehangu ei menter, Ridiculously Rich by Alana, bydd y siop ddiweddaraf yn agor yn Noc Fictoria yn hen safle siop anrhegion Celtica, a gaeodd yn 2016.

Fe wnaeth Alana Spencer cyhoeddiad drwy ei sianel YouTube, gan ddweud eu bod hi “mewn cariad” â’r safle yng Nghaernarfon.

“Fel deja vu

“Rydyn ni’n darganfod mwy a mwy pa mor brydferth yw hi yng ngogledd Cymru,” meddai Alana Spencer.

“A’r tro yma rydyn ni wedi dewis safle’r rydyn ni wirioneddol mewn cariad â hi yng Nghaernarfon. A dw i wedi cyffroi i weld be allwn ni wneud â hi.

“Yn amlwg fydd e’n binc a phastel, ac yn neis iawn a ciwt. Yn y ffenestri, rydyn ni am gael paneli ffenestri neis iawn. Mae yna olygfa hyfryd o’r harbwr.

“Rydyn ni wedi bod yno nawr yn gwneud peth cynllunio. Rydyn ni wedi gwneud hyn dair gwaith wan.

“Felly rydyn ni’n gwybod ychydig bach mwy ynghylch beth mae’n rhaid i ni ei wneud er mwyn ei hagor,” ychwanega.

“Felly roedd e’n teimlo braidd fel deja vu, ond deja vu gydag ychydig mwy o wybodaeth.”

Mae Alana Spencer yn dod o Aberystwyth, ac enillodd gyfres The Apprentice yn 2016 cyn agor ei siop gyntaf yn y dref llynedd.