Mae cynnig i ymestyn y gefnogaeth arbenigol fydd ar gael i drochi plant yn y Gymraeg yng Ngwynedd wedi bod gerbron pwyllgor craffu heddiw (Mehefin 10).

Fe wnaeth Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor gytuno a chefnogi gweledigaeth Cemlyn Rees Williams, yr Aelod Cabinet dros Addysg, ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth i fod yn “fwy hyblyg a chyfoes”.

Byddai cynlluniau’n gweld £1.1m yn cael ei fuddsoddi er mwyn ehangu’r gefnogaeth, gan gynnwys sefydlu dwy ganolfan newydd – un ym Mangor a’r llall yn Nhywyn, Sir Feirionnydd.

Mae’r argymhelliad hefyd yn awgrymu symud canolfan drochi Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth i safle Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, gan fod y cyfleusterau ym Mhenrhyndeudraeth yn “annerbyniol” ar hyn o bryd.

‘Ymateb i ddemograffeg’

“Mae gennym ni ganolfannau eraill yn bodoli’n barod ers yr 80au wedi’i lleoli mewn gwahanol ardaloedd o fewn y sir,” esboniodd y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, sy’n cynrychioli ward Cadnant yng Nghaernarfon ar y cyngor sir, wrth golwg360.

“Y bwriad ydy ein bod ni’n buddsoddi £1.1m o arian cyfalaf i ehangu’r canolfannau, rydyn ni’n bwriadu agor canolfan newydd yn ardal Bangor, dydy’r lleoliad eto heb ei benderfynu.

“Rydyn ni hefyd yn bwriadu agor canolfan yn Nhywyn, Sir Feirionnydd.

“Mae yna reswm am hynna, ymateb yda ni i demography’r ddwy ardal.

“De Meirionnydd… teuluoedd yn symud mewn o ganolbarth Lloegr i fyw, wedyn mae yna fwy o ofyn, rydyn ni’n teimlo, so rydyn ni’n ymateb i anghenion yr ardal yna.

“Ym Mangor, mae’r demography ychydig bach yn wahanol. Dydy’r un math o boblogaeth ddim yr un fath ag sydd yn Sir Feirionnydd.

“Mae Bangor yn fwy Seisnigaidd am wahanol resymau, ac wedyn rydyn ni’n ymateb i’r gofyn yna.

“Yn sicr, mae o’n cael ei groesawu yn ardal Bangor, ac yn ne Sir Feirionnydd.”

‘Mwy cyfoes a hyblyg’

“Mae’n wir i ddweud fod y ddarpariaeth sydd yna’n bresennol… dydy ansawdd y ddarpariaeth ddim wedi newid ers yr 80au,” eglurodd Cemlyn Rees Williams.

“Rydyn ni eisiau gwneud y ddarpariaeth yn fwy cyfoes, ac yn fwy hyblyg.

“Be sy’n digwydd ar y funud ydi bod y canolfannau’n sefyll ar ben eu hunain, does yna ddim cysylltiad rhwng un canolfan a’i gilydd.

“Mae’r fam-ysgol yn anfon plant yno, dim cysylltiad efo’r fam-ysgol tan mae’r plentyn yn dod yn ôl ar ôl tri mis.

“Rydyn ni’n meddwl fod yr oes wedi newid, rydyn ni wedi dysgu llawer o’r cyfnod clo am sut i roi darpariaeth gyfunol – cyfuniad o wyneb-yn-wyneb a rhithiol, a defnydd o’r cyfryngau cyfoes.

“I raddau, adeiladu ar be sydd gennym ni’n barod ydyn ni, ac i bob pwrpas dod â fo i’r unfed ganrif ar hugain.

“Yn gryno, rydyn ni eisiau buddsoddi arian cyfalaf er mwyn sicrhau fod y cyfleusterau gorau ganddyn nhw yn y canolfannau hefyd.

“Mae’n debygol y bydd adeilad newydd yn cael ei adeiladu’n rhan o Ysgol Uwchradd Tywyn, er enghraifft.”

‘Cydnabod y gwaith’

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig cydnabod y gwaith arbennig mae’r canolfannau wedi’u gwneud dros y blynyddoedd,” pwysleisia Cemlyn Rees Williams.

“Dydi hyn ddim yn adlewyrchu dim ar be’ maen nhw wedi’i wneud.

“Ar y funud, mae plentyn yn cael ei anfon gan y fam-ysgol i’r ganolfan iaith, ac mae o yno am bum diwrnod yr wythnos. Does yna ddim cysylltiad gyda’r fam-ysgol hyd nes mae’r plentyn wedi gorffen y cyfnod trochi.

“Be’ mae’r pandemig wedi dysgu i ni hefyd ydy llesiant y plentyn. Be rydyn ni’n argymell ydy fod y plentyn yn y ganolfan am bedwar diwrnod, a’i fod o yn y fam-ysgol am ddiwrnod bob wythnos er mwyn cadw cysylltiad efo’r fam-ysgol.

“Fy ngweledigaeth i ydy ein bod ni eisiau sicrhau fod y plant yma’n cael y cyfle a’r ddarpariaeth orau, ond bod hwnnw’n gyfoes.

“Mae’n wir i ddweud, roedd gweledigaeth Cyngor Gwynedd yn yr 80au yn arloesol. I raddau, mae yna gydnabyddiaeth ar hyd a lled Cymru fod y canolfannau yma’n eiconig bellach.

“Mi oedd yna fygythiad ddwy flynedd yn ôl o ochr cyllideb i rai o’r canolfannau, ond ro’n i’n awyddus fel yr Aelod Cabinet ar Addysg ein bod ni’n edrych ar opsiynau eraill a dyna rydyn ni’n ei wneud, mewn ffordd, ydy edrych ar addysg yn ei gyfanrwydd.

“Dod a fo i fyny i beth ydy gofynion ac anghenion plant yn yr unfed ganrif ar hugain.”

“Be sy’n bwysig… be maen nhw wedi’i gymeradwy [heddiw] ydy’r weledigaeth, yn naturiol mae yna fanylion ac ati lle maen nhw wedi gofyn cwestiynau, ac rydyn ni wedi dweud bod angen mwy o waith ar hynny,” meddai Cemlyn Rees Williams wrth drafod cefnogaeth y Pwyllgor Craffu tuag at y weledigaeth.

“Ond cyn belled â lle mae’r weledigaeth a’r amcanion yn y cwestiwn, yna maen nhw wedi’u croesawu nhw 100% i ddweud y gwir.”

Canolfan Penrhyndeudraeth

“Efo canolfan Penrhyn, Cefn Coch, mae gennym ni broblem efo’r adeilad, dydy o ddim yn gymwys.”

Esboniodd Cemlyn Rees Williams fod yr argymhelliad yn bwriadu symud Canolfan Cefn Coch, a’i huno gyda safle trochi plant hŷn yn Ysgol Eifionydd, ym Mhorthmadog.

“Be yda ni’n bwriadu ei wneud ydy buddsoddi yn Ysgol Eifionydd, ac wrth mai dim ond tafliad carreg ydy Penrhyndeudraeth o’r wrth Borthmadog dydyn ni ddim yn meddwl fod hynny’n mynd i amharu dim.

“Dydy’r cyfleusterau yn Penrhyn ddim yn dderbyniol. Mae’r Aelod lleol yn gefnogol iawn, mae yna broblem efo capasiti’r ysgol gynradd yn Penrhyn hefyd wedyn fysa ni’n manteisio wedyn ar y gofod sy’n cael ei adael ar ôl.

“Mae hwnnw’n cael ei groesawu ym Mhorthmadog. Mae o’i weld fel bod ni’n cau canolfan, ond dydyn ni ddim.

“Rydyn ni jyst yn symud hi er mwyn cael gwell cyfleusterau.”

Ychwanegodd Cemlyn Rees Williams ei fod yn fwriad i’r staff fod yn hyblyg, gan fynd i leoliadau penodol yn ôl yr angen.

Mae’n obaith ganddyn nhw hefyd y bydd Estyn, fel arolygwyr safonau addysg, yn arolygu’r Canolfannau.

“Dim dweud ydw i nad ydyn nhw’n safonol, na dim byd felly, ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael rhywun allanol, annibynnol, sy’n medru rhoi adroddiad I fi fel yr Aelod Cabinet.”

Bwriadu buddsoddi £1.1 miliwn er mwyn ehangu’r gefnogaeth i ddisgyblion ddysgu Cymraeg yng Ngwynedd

Byddai’r drefn newydd yn golygu buddsoddi mewn adnoddau newydd ym Mangor a Thywyn, yn ogystal â gwella’r adnoddau ym Mhorthmadog