Mae rhaglen frechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi parhau i gynyddu momentwm a dros y penwythnos, maent wedi cyrraedd carreg filltir o 200,000 o frechlynnau.

Mae’r data a gyhoeddwyd heddiw (Chwefror 22) yn amlygu bod 202,321 o bobl wedi eu brechu, ar draws chwe sir y Gogledd sef dwbl y nifer oedd wedi eu brechu ar gychwyn y mis.

Mae’r data diweddaraf yn cynnwys cymysgedd o’r dôs gyntaf a’r ail ddôs.

Dangosodd data a gyhoeddwyd yn ddiweddar bod meddygfeydd a fferyllfeydd yn gyfrifol dros hanner o’r brechlynnau oedd wedi’u rhoi yng ngogledd Cymru.

“Brechwyr gwych yng Ngogledd Cymru”

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:

“Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein brechwyr gwych yng Ngogledd Cymru wedi cyrraedd 200,000 o frechlynnau.

“Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys cymysgedd o ddosys cyntaf ac ail ac rydym yn gobeithio gallu cynnwys mwy o fanylion am y wybodaeth hon yn yr adran ystadegau brechu ar ein gwefan cyn bo hir.

Y data

Mae’r data’n dangos bod yr ystadegau fesul ardal fel a ganlyn: Ynys Môn: 22,547, Gwynedd: 34,583, Conwy: 39,263, Sir Ddinbych: 30,562Sir y Fflint: 37,745, Wrecsam: 32,394,

Mae bron i un o bob pump o bobl sydd wei derbyn y brechlyn yn weithwyr gofal iechyd neu weithwyr gofal cymdeithasol, tra bod llai nag 10% yn oedolion bregus, sydd o dan 70 mlwydd oed.

Mae’r data’n cael eu diweddaru yn ddyddiol ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.