Bydd cronfa o £60,000 yn “rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r bobol” o ran pwy fydd yn derbyn arian a atafaelwyd o droseddwyr yn y Gogledd.

Cafodd cynllun ‘Eich Cymuned Eich Dewis’ ei lansio i wobrwyo grwpiau sy’n ymladd trosedd ar draws yr ardal.

Mae hyd at £2,500 ar gael ar gyfer grwpiau ym mhob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru, a thri grant o hyd at £5,000 ar gyfer trefnwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn tri sir neu fwy.

Daw’r cyllid hwn yn rhannol o arian a atafaelir gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Troseddu, gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Clwb Criced Caernarfon

Mae’r cynllun wedi ei drefnu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).

Bellach, maent wedi cyhoeddi’r prosiectau sydd ar y rhestr fer ac yn annog y cyhoedd i bleidleisio i gael enillwyr.

Yn eu plith, mae prosiect er mwyn atgyweirio cyfleusterau Clwb Criced Caernarfon wedi difrod a achoswyd y llynedd.

Eglurodd Trysorydd y Clwb, Gwyn Williams: “Yn anffodus, diwrnod y clo mawr flwyddyn ddiwethaf, roedd hi’n ddiwrnod cau ysgolion oherwydd Covid-19 ac fe aeth lwyth o blant yno i gael barbeciw,” meddai, “ac yn anffodus, roedden nhw wedi rhoi’r llain ar dân!

“Dydw i ddim yn meddwl medrwn ni chwarae heb atgyweirio’r llain artiffisial… yr unig obaith sydd ganddo ni rŵan, ydi i godi pres er mwyn ei drwsio fo.

Difrod Clwb Criced Caernarfon

Dywedodd bod y gefnogaeth leol wedi bod yn gymorth mawr wedi’r digwyddiad, a’u bod wedi llwyddo i atgyweirio’r CCTV er mwyn atal unrhyw ddifrod pellach yn y dyfodol.

“Mae’r fandaliaeth yn yr ardal yma dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy,” meddai.

“Ond dwi’n benderfynol bod ni’n cario ’mlaen a gobeithio fod pobl yn sylweddoli ein bod ni’n gwneud y gwaith ’ma er mwyn pobl ifanc yr ardal.

“’Da ni’n trïo ein gorau!”

Clwb Criced Caernarfon

Cwrt Tennis Parc Meurig, Bethesda 

Nod un o’r Prosiectau eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yw rhoi bywyd newydd i gwrt tennis Parc Meurig ym Methesda.

“Nes i ddysgu sut i chwarae tennis ym Mharc Meurig fy hun yn yr 80a’u felly mae gen i atogofion melys o chwarae lawr yna,” meddai Tom Simone, brodor o’r pentref.

“Mae ’na lot o bobl yn ardal Bethesda sy’n cofio ardal Parc Meurig fel oedd o – yn le neis, braf lle mae pobol yn gallu treulio amser yn mwynhau chware tennis.

“Felly dyna ydi’r bwriad, i drïo cael o’n ôl i sut oedd o… i ddarparu adnodd i’r gymuned lle mae pobol yn gallu cael hwyl.

Cwrt Tennis Parc Meurig, Bethesda

“Rydyn ni’n gobeithio rhoi gwersi ymlaen, felly fydd y plant yn gallu manteisio o hynny ond mae pawb o bob oedran yn gallu chware tennis – felly fydd o i bawb i fod yn onest!

“Mae ’na gyfle da yma i greu rhywbeth gwerthfawr iawn.”

“Troi arian drwg yn dda”

Dyma wythfed flwyddyn cynhelir y cynllun ac yn ystod y cyfnod hwn, dyfarnwyd cyfanswm o £310,000 i 106 o brosiectau amrywiol.

“Rwy’n cael boddhad arbennig bod rhan o’r cyllid yn dod o’r elw o droseddu fel bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a’u helw anghyfreithlon gan y llysoedd ac yn cael ei roi’n ôl i fentrau cymunedol,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Sacha Hatchett.

“Mae’n troi arian drwg yn dda ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan mai pobl leol sy’n adnabod ac yn deall eu materion lleol a sut i’w datrys.

“Mae plismona’n rhan o’r gymuned ac mae’r gymuned yn rhan o blismona ac mae’r cynllun hwn yn ffordd gadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth mewn plismona.

“Mae’n wych gweld y berthynas hon yn ffynnu oherwydd heb y gymuned ni fyddwn yn gwybod beth sy’n digwydd, heb y gymuned ni fyddem yn cael cudd-wybodaeth, ac ni fyddwn yn datrys troseddau.”

Mae modd darllen am yr holl brosiectau sydd ar y rhestr fer, a phleidleisio, drwy glicio’r ddolen hon.