Pennaeth newydd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig am i blant “wireddu eu breuddwydion”

“Braint cael addysgu pobol ifanc” meddai Dr Rhodri Thomas

Mae Pennaeth newydd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth, wedi dweud wrth golwg360 ei fod am i blant yr ysgol “wireddu eu breuddwydion”.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, cafodd Dr Rhodri Thomas ei addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Astudiodd Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn astudio am ddoethuriaeth yng Nghaeredin.

Mae’n parhau i fod yn llysgennad dros bwysigrwydd y gwyddorau, ac yn awdur ar nifer o werslyfrau Safon Uwch ym maes Cemeg yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dechreuodd ei yrfa mewn addysg uwch yn gweithio mewn prifysgolion ym Mhrydain, Yr Unol Daleithiau ac Awstralia ac mae wedi treulio cyfnod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.

“Fe wnaeth addysgu myfyrwyr, yn enwedig gwaith allgymorth gyda disgyblion o gefndiroedd difreintiedig fy ysbrydoli,” meddai.

“Wnes i weld y gwahaniaeth mae pobl yn gallu ei wneud i fywydau ac mae’n fraint cael addysgu plant a phobl ifanc.”

“Anelu’n uchel”

Mae Dr Rhodri Thomas wedi dweud wrth golwg360 ei fod am i blant yr ysgol geisio gwneud eu gorau glas.

“Fy neges i’r plant yw anelu’n uchel, gweithio’n galed a gwireddu eu breuddwydion.

“Mae’n gyfle i ni fel athrawon eu helpu nhw i wneud eu gorau glas a bod yn llwyddiannus drwy eu bywydau.”

“Addasu i’r coronafeirws”

Daw Dr Rhodri Thomas i’r swydd mewn cyfnod anodd i ysgolion yn sgil pandemig y coronafeirws.

Ond mae’n dweud fod plant Ysgol Penweddig wedi “addasu yn gyflym.”

“Mae hi wedi bod yn braf gweld disgyblion yn ôl, ac mae rhai disgyblion sy’n draddodiadol heb weld gwerth yr ysgol yn ei weld o nawr ar ôl cyfnod mor hir i ffwrdd.

“Mae’r plant wedi bod yn grêt, maen nhw wedi addasu yn gyflym ofnadwy ac yn gwneud popeth fel ei fod o’n arferol.

“A dweud y gwir, dw i’n meddwl fod y plant wedi addasu’n well na’r athrawon,” meddai dan chwerthin.

Hoff atgofion Dr Rhodri Thomas o’r ysgol

“Bod yn y labordy wyddoniaeth yn gwneud pethau ymarferol gwyddonol” yw hoff atgofion Dr Rhodri Thomas o’r ysgol.

“Dw i’n cofio mynd i weithdy athro a chael damwain a ffrwydrad, yr hwyl yna o weld pethau annisgwyl yn digwydd.

“Dyna wnaeth fy sbarduno fi i fod mewn addysg a dw i’n meddwl bod gwyddoniaeth yn bwnc diddorol i ddysgu, er nad ydi pawb yn cytuno.”

Ac mae ganddo atgofion melys o gael cinio ysgol hefyd.

“Roeddwn i wastad yn fan o ginio rhost, stwff traddodiadol, a chrymbl neu darten afal efo cwstard i fynd efo fo.”

← Stori flaenorol

Wythnos y glas dan gysgod Covid

Byw mewn swigen, dim digwyddiadau cymdeithasol a peryg na fydd modd cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol – y realiti i fyfyrwyr dan gyfyngiadau lleol

Stori nesaf →

Stryd y Frenhines, Caerdydd yn dawel

Cyflwyno cyfyngiadau clo yng Nghaerdydd, Abertawe a Llanelli

Iolo Jones

“Dylai bobol yng Nghaerdydd ac Abertawe osgoi mynd dros ben llestri y penwythnos hwn”

Hefyd →

Cyfnod newydd yn hanes Y Cyfnod

Erin Aled

“Er ein bod yn byw mewn byd technolegol iawn, dwi’n credu bod dal lle bwysig i bapur newydd caled wythnosol yn yr ardal.”