Roedd rhagor o brotestio gan ffermwyr ledled gwledydd Prydain ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 11), gyda gwrthdystiadau ym mhob un o’r pedair prifddinas, ac mae un ffermwr yn dweud mai’r “camargraff” mae pobol drefol yn ei gael o fywyd yng nghefn gwlad sydd wrth wraidd y broblem.
Mae’r weithred ddiweddaraf hon yn dilyn misoedd o anfodlonrwydd ac ymgyrchu ynghylch newidiadau i’r dreth etifeddiant, cynlluniau cynaliadwyedd, a dirywiad cyffredinol yn yr economi wledig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw am wneud sylw am y protestiadau, am nad yw pennu’r dreth etifeddiant yn fater sydd wedi’i ddatganoli i’r Senedd.
Ond yn ôl un ffermwr ifanc, mae diffyg dealltwriaeth – yn y cyfryngau a’r byd gwleidyddol – ynghylch y rhwystredigaeth mae’r gymuned amaeth yn ei mynegi.
Nid polisïau penodol, ond yr anwybodaeth gyffredinol sydd gan bobol sydd wrth wraidd cwynion ffermwyr, meddai’r ffermwr nad yw’n dymuno cael ei enwi.
‘Camargraff’
Mae’r ffermwr ifanc o Gwm Bargoed yn credu bod gan lawer o bobol sy’n byw mewn ardaloedd trefol “gamargraff” o’r hyn mae ffermwyr yn ei brofi.
Yng Nghyllideb y Canghellor Rachel Reeves fis Hydref, cyhoeddodd hi newidiadau i’r dreth etifeddiant, sy’n golygu bod y dreth bellach yn gymwys i lawer o dir amaeth fyddai fel arall wedi’i eithrio.
O’r flwyddyn nesaf, bydd y dreth etifeddiant yn berthnasol i asedau sydd â gwerth y tu hwnt i’r trothwy o £1 miliwn o bunnoedd.
Mae’r ffermwr ifanc yn credu bod nifer o bobol drefol wedi camddehongli’r ymateb gan ffermwyr i’r cyhoeddiad hwn, ac wedi cymryd bod pob un ffermwr blin yn filiwnydd cyfoethog sy’n gwrthod talu treth mae’n rhaid i bawb arall ei goddef.
Ond peth gwahanol ydy’r gwirionedd, meddai.
‘Cynrychiolaeth’
“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn dlawd iawn o ran arian, a phe basen nhw’n gwerthu rhai o’u hasedau, mi fyddai eu busnesau hyd yn oed yn llai proffidiol ac yn cynhyrchu hyd yn oed yn llai o arian,” meddai wrth golwg360.
“Oes, mae yna rai ffermwyr hynod gyfoethog – fel Jeremy Clarkson – ond dydy’r rhan fwyaf o ffermwyr ddim yn gwario’n wirion ar bethau crand.”
Fe fu sôn mai twyll gan Jeremy Clarkson sydd wrth wraidd nifer helaeth o’r protestiadau diweddar, am fod y cyflwynydd teledu wedi honni yn y gorffennol mai dim ond er mwyn osgoi gorfod talu’r dreth etifeddiant y prynodd e ei fferm yn wreiddiol.
Mae’r ffermwr ifanc yn cydnabod nad yw bywyd Jeremy Clarkson yn adlewyrchu sefyllfa ariannol, nac hyd yn oed agweddau cymdeithasol y rhan fwyaf o ffermwyr mae e’n eu hadnabod.
Ond ar y cyfan, meddai, mae’r gymuned yn gyffredinol wir yn gwerthfawrogi’r sylw mae Jeremy Clarkson wedi’i dynnu at y diwydiant amaeth a’r heriau mae’n eu hwynebu, am ei fod yn aml heb unrhyw gynrychiolaeth yn y cyfryngau cyfoes.
“Dw i erioed wedi clywed unrhyw ffermwyr yn sôn yn gas am Clarkson – mae e’n dangos pa mor anodd mae pethau’n medru bod,” meddai.
Mae’r ffermwr ifanc yn cyfeirio at y dioddefaint mae cynifer o ffermwyr yn ei wynebu ac nad yw’n aml yn cael sylw teg yn y cyfryngau.
Er enghraifft, mae cyfraddau hunanladdiad yn sylweddol uwch ymhlith ffermwyr na’r boblogaeth gyffredinol, yn aml yn sgil y pwysau ariannol maen nhw’n eu hwynebu.
Mae’r un yn wir am gyfraddau anafiadau a marwolaethau yn y gweithle.
“Dydy pobol sy’n byw mewn trefi ddim wir yn cael myfyrio ar yr agweddau hynny,” meddai.
‘Estroni’
Mae’n debyg mai yng Nghymru fis Chwefror eleni y cychwynnodd y don newydd hon o anghydfod, wrth i gynllun cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru ennyn dicter y gymuned.
Ond cynaliadwyedd diwylliannol, nid amgylcheddol, ydy prif bryder y ffermwr ifanc.
Mae rhai o aelodau’r Blaid Lafur wedi cymharu’r diwydiant amaeth â’r diwydiant glo yn y 1980au, oedd yn prysur ddod yn fwyfwy anghynaladwy.
Mae’n gymhariaeth deilwng os yw’n gwerthfawrogi mai pryderon am ddirywiad diwylliannol a’r math o fywyd roedd modd ei fyw oedd wrth wraidd rhwystredigaeth y glowyr bryd hynny hefyd, meddai.
“Dw i’n credu, i ryw raddau, bod pobol sy’n byw mewn trefi, yn enwedig mewn dinasoedd mawr, anhysbys, wedi’u hestroni rhag eu cymunedau,” meddai.
“Efallai mai fi sydd â’r camargraff y tro yma, ond dw i’n teimlo weithiau ei bod hi’n anodd i bobol sy’n byw yn y ddinas amgyffred pa beth yw bod â chymuned, â diwylliant unigryw, byw maen nhw’n ei brofi o ddydd i ddydd.
“Dw i’n teimlo fel bod pobol yn ein herbyn ni, a’n ffordd ni o fyw, a’r gwir ydy, oes, mae pethau lot yn bwysicach ac yn fwy difrifol yn digwydd yn y byd.
“Ond dw i wir ddim yn gwybod sut fydd llawer o’r bobol dw i’n eu hadnabod yn ymdopi heb y cymorth mae’r diwylliant a’r gymuned yma’n ei gynnig.”