Mae Darren Millar, arweinydd newydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd, wedi cyhoeddi ei Gabinet cysgodol newydd, ond does dim lle i’w ragflaenydd.
Mae Andrew RT Davies wedi’i enwebu i fod yn gadeirydd ar Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, serch hynny.
Mae newid hefyd yn swydd y Prif Chwip, gyda Paul Davies, fu’n arweinydd y blaid rhwng 2018 a 2021, yn cymryd yn fantell oddi wrth Sam Kurtz, fydd bellach yn gyfrifol am y Gymraeg, yr Economi ac Ynni.
Mae David TC Davies, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi’i benodi’n Bennaeth Staff.
Y Cabinet cysgodol yn llawn
- Darren Millar – Arweinydd
- Paul Davies – Prif Chwip, Cwnsler Cyffredinol Cysgodol, y Cyfansoddiad a Materion Allanol
- Sam Rowlands – Cyfarwyddwr Polisi a llefarydd Cyllid
- James Evans – llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Samuel Kurtz – llefarydd ar yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
- Natasha Asghar – llefarydd Addysg
- Peter Fox – llefarydd Seilwaith, Trafnidiaeth a Materion Gwledig
- Joel James – llefarydd Plant, Pobol Ifanc, Iechyd Meddwl a Lles
- Laura Anne Jones – llefarydd Llywodraeth Leol, Tai a’r Lluoedd Arfog
- Janet Finch-Saunders – llefarydd Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd
- Gareth Davies – llefarydd Diwylliant, Twrisitiaeth, Chwaraeon a gogledd Cymru
- Altaf Hussain – llefarydd Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae Russell George yn gadeirydd ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Mark Isherwood yn gadeirydd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
Mae Tom Giffard yn gyd-gadeirydd ar y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.
Pe na bai Andrew RT Davies yn llwyddiannus yn ei ymgais i ddod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, fo fydd yr unig aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig heb rôl yn y Cabinet cysgodol neu fel cadeirydd neu gyd-gadeirydd ar bwyllgor.
Dadansoddiad Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360:
Y cwestiwn mawr wrth i Darren Millar olynu Andrew RT Davies yn arweinydd ar y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf oedd a fyddai yna rôl i Andrew RT Davies yn ei Gabinet cysgodol newydd.
“Bydd rhaid i chdi aros i weld,” meddai wrth golwg360.
Wel, cawsom ein hateb rŵan, ac mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr Cymreig o dan Darren Millar yn ceisio creu gagendor rhwng y blaid a’i chyn-arweinydd.
Heb swydd yn y Cabinet cysgodol, gydag enwebiad ar gyfer rôl cadeirydd pwyllgor yn unig, mi fydd dylanwad Andrew RT Davies yn ddibynnol ar y bleidlais ar gyfer cadeirydd nesa’r pwyllgor yn y Senedd.
Mae hi’n ymddangos mai fo oedd yr unig aelod heb wên ar ei wyneb mewn lluniau yn cyhoeddi’r swyddi newydd.