Ddyddiau’n unig ar ôl cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth (Rhagfyr 10), mae Mark Drakeford yn dweud y byddai’n cymryd “lot mwy na blwyddyn” i ailwampio Fformiwla Barnett er mwyn creu system sy’n decach i Gymru.

Wrth siarad â golwg360, mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru wedi bod yn amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth yn y meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru lle maen nhw eisiau gweld twf.

Yn hytrach na dyfeisio system newydd, dywed fod y Llywodraeth yn awyddus i “gael mwy o hyblygrwydd” i reoli’r arian sy’n dod i Gymru yn rhan o’r setliad presennol.

Blaenoriaethau

Mae Mark Drakeford wedi rhestru tri maes lle mae’n disgwyl gweld cynnydd o ganlyniad i fwy o arian, sef iechyd, addysg a thai fforddiadwy.

  • Iechyd

Amcan syml y Llywodraeth ym maes iechyd, meddai, ydi “gweld mwy o bobol yng Nghymru yn cael triniaeth”.

Mae rhestrau aros wedi bod cynyddu bob mis ers dechrau 2023, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 800,000 o bobol yng Nghymru yn aros un ai am driniaeth neu am apwyntiad cyntaf.

O blith y rhain, mae bron i 24,000 yn aros ers dwy flwyddyn neu fwy am driniaeth.

Dywed Mark Drakeford ei fod o eisiau gweld y rhestrau hyn yn gostwng yn “gyflymach”, a bod Llywodraeth Cymru eisiau “gwneud mwy ym maes iechyd menywod” hefyd.

Dywed fod yna £3m ar gael i “greu canolfannau” ar gyfer hynny.

  • Addysg

Dywed Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod “twf mawr” wedi bod “yn nifer y plant sy’n dod ymlaen gydag anawsterau dysgu”.

“Mae e wedi bod yn anodd cadw lan gyda’r galw am help yn y maes yna,” meddai.

“Ond nawr, bydd mwy o arian yn barod i helpu ysgolion i wneud mwy.”

  • Tai fforddiadwy

Blaenoriaeth arall i’r Llywodraeth ydi mynediad i bobol i dai fforddiadwy.

Dywed Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod “nifer fawr o bobol yng Nghymru yn aros ar restrau” awdurdodau lleol ar gyfer tai.

“Rydym eisiau cyflymu’r rhaglen i greu tai newydd a fforddiadwy ar gyfer y dyfodol,” meddai.

Cynnydd i’r gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, ond llymder i’r gweddill?

Er bod y Gyllideb Ddrafft wedi’i disgrifio fel un “ddisglair i Gymru” gan Mark Drakeford, ac fel un sy’n “troi’r cornel” gan ei gyd-Aelod Llafur Alun Davies, mae dadansoddiadau cynnar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos gostyngiad posib i gyllidebau tu allan i wasanaethau craidd.

O gymharu â Chyllideb 2023/24, mae 3.7% yn ychwanegol ar gyfer ariannu dydd i ddydd yn y Gwasanaeth Iechyd, a 3.1% yn ychwanegol i’r setliad sydd yn cael ei roi i Lywodraeth Leol.

Ond y tu hwnt i hynny, mae’n bosib y bydd adrannau eraill yn gweld gostyngiad o ryw 1.1%.

Ond a ydi hyn yn cyfateb i lymder?

Wrth ymateb, dywed Mark Drakeford nad oes modd “llenwi pob bwlch mewn blwyddyn” na “mynd dros bob toriad oedd yn rhaid i ni eu gwneud dros y blynyddoedd diwethaf”.

“Dyna pam dw i wedi esbonio’r cyllid fel y cam cyntaf ymlaen ar ddyfodol mwy disglair,” meddai.

“Rydym ar ddechrau’r daith yna, nid ar ddiwedd y daith.”

Pwysleisia fod gan bob aelod o’r Cabinet “fwy o arian, refeniw a chyfalaf” yn y Gyllideb newydd nag sydd ganddyn nhw yn y Gyllideb bresennol.

Arian dydd i ddydd ydi refeniw, ond mae arian cyfalaf yn cael ei ddefnyddio ar elfennau mwy hirdymor, megis adeiladu.

Adolygiad ariannol

Ar lefel Brydeinig yn San Steffan, mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cychwyn adolygiad ariannol.

Mae disgwyl i’r adolygiad ddod i ben yn y flwyddyn newydd gyda datganiad fel rhan o Gyllideb y gwanwyn, fydd yn amlinellu’r cynllun ariannol ar gyfer y pedair blynedd cyn etholiad cyffredinol 2029.

Yn rhan o hyn, mae disgwyl y bydd mwy o arian ar gael yn sgil y setliad ariannol i Gymru, sy’n cael ei benderfynu ar hyn o bryd yn ôl Fformiwla Barnett.

Yn sgil dylanwad Llywodraeth Cymru ar yr adolygiad, dywed Mark Drakeford fod yna “lot mwy o gyfleoedd” i drafod materion fel hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae Eluned Morgan fel Prif Weinidog wedi cwrdd mwy gyda’r Prif Weinidog Keir Starmer mewn pum mis nag roeddwn i’n cael cyfle i gwrdd gyda Phrif Weinidogion y Deyrnas Unedig dros bum blynedd,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae yna lot o reolau sydd ddim yn ein helpu ni i ymdopi gyda’r cyllid sydd gyda ni, a defnyddio’r arian sydd gyda ni yn y ffordd sydd orau i Gymru.”

Ychwanega y bydd unrhyw ymdrech i gael rhywbeth arall yn lle Fformiwla Barnett yn “brosiect lot mwy nag ydyn ni’n gallu ei wneud mewn blwyddyn”.

“Bydd rhaid i ni gael rhyw ffordd ymlaen, lle mae pob cwr o’r Deyrnas Unedig yn fodlon cytuno,” meddai.

“Dyna yw polisi Llywodraeth Cymru.”