Mae’r Senedd wedi clywed y gall cynifer â 100,000 o bobol yng Nghymru – gan gynnwys 4,500 o blant – fod yn dioddef yn sgil Covid hir o hyd, bron i bum mlynedd ar ôl i’r pandemig daro.
Mae Hefin David, Aelod Llafur o’r Senedd, wedi rhybuddio nad yw Covid wedi diflannu, gyda miloedd yn teimlo fel grŵp anghofiedig yn dal i ddiodde’r effeithiau hyd heddiw.
Mae Hefin David, sy’n cynrychioli Caerffili, yn cofio cyfarfod Lee David Bowen, y canwr opera o Drethomas, sydd wedi dioddef o Covid hir.
Dywed ei fod yn “falch o ddweud ei fod yn ôl yn canu’n llwyddiannus erbyn hyn”, ond pan wnaeth e ei gyfarfod, “roedd yn gysgod o’r person hwnnw”.
“Roedd yr effaith gafodd ar ei gorff, ar ei lais ac ar ei ymenydd yn drasig i’w weld, ac er ei fod wedi gwneud yr hyn y gallwn ni ei alw’n adferiad rhannol yn ein barn ni, rydym wedi gweld yr adferiad hwnnw,” meddai.
‘Gwir raddfa’r broblem’
Wrth arwain dadl ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 11), fe wnaeth Hefin David ganmol Gareth Yanto Evans o elusen Long Covid Support, sydd wedi bod yn allweddol wrth gadw Covid hir ar yr agenda.
Rhybuddiodd Hefin David am ddiffyg data ar Covid hir, gan nad oedd Cymru wedi cymryd rhan mewn arolwg ym mis Mawrth oedd wedi dangos bod 3.3% o bobol yn Lloegr a’r Alban yn byw gyda’r cyflwr.
“Pe baem yn defnyddio’r data hwnnw i allosod niferoedd tebyg ar gyfer Cymru, byddai’n cyfateb i o leiaf 100,000 o bobol, gan gynnwys 4,500 o blant – ac mae hyn yn debygol o danamcangyfrif gwir raddfa’r broblem,” meddai wrth y Senedd.
Galwodd am ymgyrch iechyd cyhoeddus i dynnu sylw at berygl heintiau Covid mynych sy’n cynyddu’r siawns o ddatblygu Covid hir.
Dywedodd nad yw pobol â Covid hir o reidrwydd yn cael eu dosbarthu fel rhai sy’n agored i niwed yn glinigol, a bod cynifer yn methu â chael mynediad at frechlynnau atgyfnerthu.
‘Ni chawsom ein hamddiffyn’
Dyfynnodd Hefin David ffrind oedd wedi dweud eu bod nhw’n “teimlo fel grŵp anghofiedig, a’r gobaith yw y bydd yn gwneud i bobl sylweddoli’r dinistr y mae’n ei achosi”.
“Mae pobol yn meddwl bod Covid yn rhywbeth o’r gorffennol, ond dw i wedi dioddef ers cael fy ysbyty gyda Covid ym mis Mawrth 2020,” meddai.
“Mae gweithwyr rheng flaen, athrawon, staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofalwyr wedi cael eu taro’n arbennig gan hyn – llawer yn colli eu gyrfaoedd a’u hincwm.
“Ni chawsom ein hamddiffyn.
“Mae ymddeoliad yn sgil afiechyd yn cael ei wrthod i lawer, gan nad oes modd profi parhad y cyflwr.
“Rwy’ wedi gorfod rhoi’r gorau i’m gyrfa fel darlithydd coleg gan fod blinder cronig, niwl yr ymennydd, a dysffagia yn golygu na allaf ddysgu mwyach, er gwaethaf lleihau fy oriau.”
Cododd Hefin David bryderon am raglen Covid hir Adferiad Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a chwnsela.
“Mae’r ymyriadau hyn yn unig yn annigonol i adsefydlu cleifion yn llwyr,” meddai.
“Mewn rhai achosion, mae cleifion yn cael presgripsiwn am ymarfer corff a all achosi niwed hirdymor.”
‘Effaith ddwys’
Wrth ymateb ar ran Llywodraeth Cymru, rhybuddia Jeremy Miles fod Cymru’n dal i brofi tonnau o’r haint ac amrywiadau newydd o’r feirws.
Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd y gall Covid hir amlygu’i hun mewn sawl ffordd, gyda mwy na 200 o symptomau wedi’u hadrodd hyd yma, ac fe all gael effaith ddwys ar fywydau pobol.
Dywed Jeremy Miles, gafodd ei benodi ym mis Medi, fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid blynyddol i fyrddau iechyd ddarparu rhaglen Adferiad yn lleol i £8m y flwyddyn.
Dywed y bydd cyllid ychwanegol yn ehangu mynediad at wasanaethau adfer i gyflyrau tebyg eraill fel ffibromyalgia, enseffalomyelitis myalgig neu syndrom blinder cronig.
“Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y canlyniad pwysig hwn i’r pandemig a byddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddiwallu anghenion unigol pobol,” meddai wrth y Senedd wrth gloi.