Mae yna bryder ei bod hi’n cymryd gormod o amser i ambiwlansiau drosglwyddo cleifion i ofal ysbytai.

Mae ffigyrau ddaeth i law’r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl cais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod amser y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei wastraffu oherwydd bod y broses yn rhy araf.

Yn ôl targedau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ni ddylai gymryd mwy nag 20 munud i drosglwyddo claf o ofal gweithwyr yr ambiwlans i weithwyr yr ysbyty.

Ond yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol roedd y broses wedi cymryd cyfanswm o 80,400 awr – tua naw mlynedd – ychwanegol ar draws Cymru rhwng Ionawr 2009 a Hydref 2010.

Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd oedd wedi colli’r mwyaf o oriau – 15,909 awr dros gyfnod o ddwy flynedd.

Roedd 11,926 awr hefyd wedi eu colli yn Ysbyty Treforys, Abertawe, a 11,926 awr yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.

Roedd hynny’n cymharu â 963 awr goll yn unig yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Roedd Ysbyty Gwynedd, Bangor wedi colli 3,209 awr ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wedi colli 2,188 awr.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod pob awr “coll” yn costio £76 – fyddai’n golygu bod y gwastraff amser wedi costio £6m dros y ddwy flynedd diwethaf.

Dywedodd llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Veronica German, bod yr ystadegau yn “arswydus”.

“Mae’n rhaid i gleifion Cymru aros am amser annerbyniol o hir i gael ambiwlans yn y lle cyntaf a nawr rydym ni’n gweld bod rhaid i ambiwlansiau ddisgwyl am amser annerbyniol o hir i drosglwyddo cleifion a chael ymateb i alwadau brys eraill,” meddai.