Bydd miloedd o weithwyr y Ganolfan Byd Gwaith yn mynd ar streic yr wythnos yma ar ôl ffrae dros amodau gweithio a honiadau eu bod nhw’n cael eu “arolygu’n ormodol”.

Fe fydd gweithwyr swyddfa yng Nghasnewydd ymysg y rheini fydd yn rhoi’r gorau i weithio yn ystod y streic 48 awr.

Fe fydd aelodau undeb gwasanaethau’r PCS yn cynnal y streic mewn saith safle gwahanol ddydd Iau a dydd Gwener ar ôl i weithwyr bleidleisio o’i blaid.

Dywedodd yr undeb bod staff wedi cwyno am amodau gwaith “annioddefol” ac oriau anhyblyg.

Yn ogystal â Chasnewydd fe fydd gweithwyr yn streicio yn Glasgow, Norwich, Sheffield, Makerfield ger Wigan a Manceinion. Mae disgwyl i tua 3,500 o weithwyr ymuno â’r gweithredu diwydiannol.

Dywedodd yr undeb y dylai gweithwyr gael yr un oriau hyblyg a gweddill yr Adran Gwaith a Phensiynau, gwaith amrywiol a boddhaol, yn ogystal â llacio rhywfaint ar ofynion “afrealistig” y swydd.

Honnodd yr undeb bod amodau gwaith “gormesol” yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi gweithwyr dan ormod o bwysau ac yn eu gwneud nhw’n sâl.

Roedd gweithwyr bellach yn gadael “ar raddfa arswydus”.

“Mae ein haelodau ni eisiau darparu gwasanaeth da ar gyfer cwsmeriaid ond mae’r targedau llym yn golygu nad ydi ymholiadau yn cael eu trin yn iawn,” meddai swyddog â’r PCS, Martin John.

“Mae hyn yn fater o barch. Rydym ni eisiau i’r Adran Gwaith a Phensiynau barchu ein cwsmeriaid a’n staff, wrth i ni bwyso am amodau gwaith teg a gwasanaeth cyhoeddus sydd wedi ei ariannu’n deg.”