Mae mwy nag 1,000 o bobol Brydeinig yn parhau yn Tunisia, er bod y cwmnïau teithio mawr wedi hedfan y rhan fwyaf adref ar frys.

Nos Sul dywedodd y Swyddfa Dramor bod rhwng 1,000 a 1,500 o bobol oedd wedi symud o Brydain, yn ogystal â theithwyr annibynnol a theithwyr gyda chwmnïau gwyliau bach, wedi aros yn y wlad yng ngogledd Affrica.

Llwyddodd dros 3,000 o Brydeinwyr – y rhan fwyaf yn mwynhau gwyliau pecyn – i ffoi’r wlad dros y penwythnos yn dilyn terfysg ar strydoedd y brifddinas.

Ddoe dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cynghori unrhyw Brydeinwyr “i adael Tunisia os nad oedd rheswm arbennig dros aros”.

Dechreuodd y trafferthion bythefnos yn ôl ac maen nhw wedi gwaethygu ers hynny. Mae’r bobol wedi bod yn protestio yn erbyn diffyg gwaith i bobol ifanc, diffyg hawliau sifil, chwyddiant, a llygredd yn y llywodraeth.

Ffodd y cyn-arlywydd Zine El Abidine Ben Ali i Saudi Arabia ddydd Gwener, cyn i arlywydd newydd, Fouad Mebazaa, gael ei urddo yn ei le.

Ddydd Sadwrn fe fu 42 o bobol farw mewn carchar yn Monastir yn Nwyrain Tunisia yn dilyn tân, ac fe gafodd 1,000 o garcharorion eu rhyddhau o garchar Mahdia ar ôl brwydro yno.