Cafodd gobeithion y Gweilch yng Nghwpan Heineken ergyd y prynhawn yma ar ôl i Wyddelod Llundain ennill buddugoliaeth haeddiannol yn eu herbyn.

Pryder pellach i’r Gweilch, ac i Gymru ar drothwy gemau’r Chwe Gwlad, yw fod Adam Jones wedi gorfod gadael y cael am hanner amser yn dioddef anaf i’w ysgwydd chwith wrth i sgarmes ddymchwel.

Roedd eu buddugoliaeth heddiw’n ddiwedd ar rediad truenus i Wyddelod Llundain ar ôl colli 10 gêm yn olynol.

Fe sgoriodd Sailosi Tagicakibau a Topsy Ojo gais yr un i’r tîm cartref, ac fe wnaeth Dan Bowden gicio tair cic gosb a throsiad a Ryan Lam un gic gosb.

Fe fethodd y Gweilch â sgorio’r un cais, a bu’n rhaid iddyn nhw fodloni ar dair cic gosb gan Dan Biggar ac un gan James Hook.

Dywed prif hyfforddwr y Gwelch, Sean Holley, i’w dîm golli cyfle pwysig heddiw.

“Fe wnaethon ni ollwng gormod o beli a gwneud gormod o gamgymeriadau,” meddai.

“Fe gawson ni feddiant ac fe gawson gyfnodau pryd y dylen ni fod wedi sgorio.

“Y peth tristaf yw ei bod hi’n anhebygol o bydd tîm o Gymru yn y rowndiau go-gynderfynol.”

Llun: Adam Jones, prop Cymru – dioddef anaf i’w ysgwydd