Er eu bod nhw ar y blaen 10-6 hanner amser ar ôl cais gan Morgan Stoddart, fe brofodd yr ymwelwyr o Gaerlŷr yn rhy gryf i’r Scarlets ddoe.

Ofer oedd eu gobeithion am allu dial am y grasfa 46-10 yng Nghaerlŷr dri mis yn ôl.

Roedd perfformiad y Teigrod wrth sgorio 26 pwynt yn yr ail hanner yn ddigon i dawelu’r dorf o 12,392 ym Mharc y Scarlets, a oedd yn gwylio’u gobeithion yn cael eu chwalu o flaen eu llygaid.

Fe fydd angen i’r Cochion sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Perpignan er mwyn cael unrhyw obaith o gyrraedd rowndiau go-gynderfynol Cwpan Heineken bellach.

Uchafbwynt y gêm oedd cais gan fewnwr Lloegr, Ben Young, a garlamodd 40 metr i’r llinell, gan sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws i Gaerlŷr a’u rhoi mewn sefyllfa gref i ennill y grŵp.